Adroddiad yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad ar Gynllun Strategol 2023-26

25 Mai 2023

Lansiwyd ymgynghoriad ar ein hamcanion strategol ar gyfer y tair blynedd nesaf. Roeddem am gasglu adborth gan randdeiliaid a gwirio ein cynigion. Yn yr adroddiad hwn, rydym yn nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad hwnnw

Pam ein bod yn ymgynghori ar ein cynllun strategol

Penderfynasom lansio ymgynghoriad ar ein cynllun strategol i wirio ein cynigion a chasglu adborth gan randdeiliaid. Yn flaenorol, rydym wedi cyhoeddi ein nodau strategol fel rhan o’r cynllun busnes blynyddol. Roedd yr amcanion fel arfer yn cael eu gosod am gyfnod o dair blynedd ac yn cael eu diweddaru ar sail dreigl. Penderfynasom newid ein hymagwedd a chyhoeddi cynllun strategol tair blynedd, a byddwn yn adolygu ein cynnydd yn flynyddol yn ei erbyn. Mae'r cyntaf o'r cynlluniau strategol hyn yn ymwneud â'r cyfnod 2023 i 2026. Credwn y bydd y dull newydd hwn yn caniatáu inni ystyried barn rhanddeiliaid ond, hefyd yn ein galluogi i osod nodau cliriach, mwy hirdymor y byddwn yn monitro cynnydd a chyflawniadau yn eu herbyn.

Dysgwch fwy am ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n tri nod strategol ar gyfer 2023 i 2026 yma .