Tystiolaeth y PSA i'r Cyd-bwyllgor ar Fil Ymchwiliadau Diogelwch y Gwasanaeth Iechyd

27 Mehefin 2018

Yn ein Tystiolaeth ysgrifenedig i’r Cyd-bwyllgor, mynegwyd ein cefnogaeth i ymdrechion y Llywodraeth i annog a hyrwyddo diwylliant dysgu ym maes gofal iechyd lle mae gweithwyr proffesiynol yn trafod yn agored faterion sydd wedi codi a ffyrdd o wella gofal cleifion. Rydym wedi dadlau’n gyson dros ddiwygio rheoleiddio proffesiynol yn rhannol er mwyn cefnogi mwy o ffocws ar ddysgu. Rydym hefyd yn ymwybodol bod diffygion o ran sut yr ymchwilir i ddigwyddiadau gofal iechyd difrifol a bod y cynigion yn y Bil drafft wedi’u bwriadu i fynd i’r afael â’r rheini.   

Lawrlwythwch