Rydym wedi ymateb i alwad yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am dystiolaeth ar strategaeth iechyd meddwl newydd ar gyfer Lloegr. Mae ein hymateb yn galw am gynnwys rheoleiddio a chofrestru mewn diwygio o'r cychwyn cyntaf, fel bod twf y gweithlu, rolau newydd, arloesedd digidol ac ailgynllunio gwasanaethau yn cael eu cefnogi gan ddiogelwch cymesur i gleifion a'r cyhoedd.
Rydym yn tynnu sylw at rôl Cofrestrau Achrededig PSA wrth roi sicrwydd i ymarferwyr iechyd meddwl nad ydynt yn cael eu rheoleiddio gan y gyfraith, ac yn argymell bod y strategaeth yn ystyried canfyddiadau'r Comisiwn annibynnol ar Ddyfodol Cwnsela a Seicotherapi. Rydym hefyd yn pwysleisio'r angen am ddiogelwch clir ynghylch defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) a thechnolegau digidol mewn gwasanaethau iechyd meddwl.