Ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn Ansawdd Gofal: Gwarcheidwad Cenedlaethol i'r GIG
14 Rhagfyr 2015
Cefndir
Gwnaethom ymateb i'r ymgynghoriad ar ddyheadau tebyg ynghylch materion bod yn agored yn Adolygiad Rhyddid i Siarad Syr Robert Francis o 2014. Mae ein hymateb, a wnaeth lawer o'r un pwyntiau ag yr ydym yn ei wneud yma, ar gael ar-lein.
Rydym yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn gan y Comisiwn Ansawdd Gofal am rôl Gwarcheidwad Cenedlaethol y GIG. Cynigiwn nifer o sylwadau cyffredinol, ond nid ydym wedi ymateb i gwestiynau'r ymgynghoriad.