Prif gynnwys

Ymateb i alwad agored Lab Twf AI yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg am dystiolaeth

06 Ion 2026

Yn ein cyflwyniad i alwad am dystiolaeth yr Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg (DSIT), rydym yn cydnabod gwerth dull cydweithredol, traws-sector o reoleiddio AI, yn enwedig o ystyried y dirwedd reoleiddio gymhleth a darniog mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r dull hwn yn cefnogi cydlynu, dysgu a rennir, a disgwyliadau cliriach, gan feithrin arloesedd a diogelu'r cyhoedd.

Gallai Labordy o'r fath greu cyfleoedd i sectorau ddysgu oddi wrth ei gilydd, nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg ac arferion da, a mynd i'r afael â materion systemig y gallai rheoleiddwyr unigol eu methu. Mae hyn yn cryfhau dealltwriaeth o risgiau a chyfleoedd, ac yn cefnogi rheoleiddio mwy ataliol, sy'n seiliedig ar risg, fel y nodir gan y PSA yn Rheoleiddio cyffyrddiad cywir .