Ymateb i alwad y Pwyllgor Addysg am dystiolaeth – ymchwiliad Diwygio Gwaith Cymdeithasol
11 Ebrill 2016
Ymchwiliad y Pwyllgor
Rydym yn croesawu’r cyfle i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Dethol ar Addysg mewn ymateb i’r alwad am dystiolaeth fel rhan o’r Ymchwiliad Gwaith Cymdeithasol i ddull y Llywodraeth o ddiwygio gwaith cymdeithasol.
Rydym yn nodi bwriad y Llywodraeth i godi safonau fel yr amlygwyd yn y memorandwm a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg a hefyd i sefydlu corff rheoleiddio newydd ar gyfer gwaith cymdeithasol, a amlygwyd yn y datganiad ysgrifenedig diweddar gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg. Fodd bynnag, credwn efallai nad yw bwriad polisi'r Llywodraeth i wella safonau mewn gwaith cymdeithasol yn cael ei wasanaethu orau drwy greu rheolydd newydd.