Prif gynnwys
Baner tudalen gyhoeddi

Ymateb i ymgynghoriad y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar y Fframwaith ar gyfer Proffesiynoldeb

27 Awst 2026

Rydym yn croesawu symudiad y Cyngor Deintyddol Cyffredinol tuag at Fframwaith ar gyfer Proffesiynoldeb sy'n fwy seiliedig ar egwyddorion, ond yn tynnu sylw at yr angen i gydbwyso hyblygrwydd â disgwyliadau clir ar gyfer gweithwyr proffesiynol deintyddol. Mae ein hymateb yn codi pryderon y gallai fod angen disgwyliadau cryfach a chanllawiau ategol ar y Fframwaith arfaethedig mewn meysydd allweddol, gan gynnwys gwrthdaro buddiannau ariannol, camymddwyn rhywiol a ffiniau proffesiynol, trin cwynion, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, ac ymddygiad y tu allan i ymarfer proffesiynol.

Yn ein hymateb, rydym wedi annog y Cyngor Deintyddol Cyffredinol i sicrhau bod meysydd allweddol o ganllawiau a/neu Ddisgwyliadau pellach yn cael eu datblygu a'u hymgorffori cyn i'r Fframwaith newydd ddod i rym, er mwyn sicrhau bod diogelwch y cyhoedd yn cael ei gynnal.