Ymateb i ymgynghoriad y Cyngor Optegol Cyffredinol ar ddatganiadau Covid-19
21 Ionawr 2021
Yn ein hymateb i ymgynghoriad y GOC cydnabuwyd bod yn rhaid datblygu llawer o'r datganiadau hyn ar fyr rybudd gyda chyfle cyfyngedig i ymgynghori â rhanddeiliaid.
Rydym yn cefnogi penderfyniad y GOC i ymgynghori ar y datganiadau hyn nawr bod ganddo gyfle i wneud hynny. Yn gyffredinol rydym yn gefnogol i weithred y GOC wrth ddarparu gwybodaeth glir i gofrestreion a'r cyhoedd yn ystod cyfnodau amrywiol y pandemig ac nid oes gennym unrhyw bryderon sylweddol am gynnwys y rhain.
Fodd bynnag, rydym yn cytuno, lle bo'n briodol, y dylai'r GOC geisio ymgorffori'r rhain mewn polisi rheoleiddio mwy cyffredinol, gan geisio newidiadau i'w ddeddfwriaeth lle bo angen. Rydym yn cefnogi defnyddio system ddosbarthu glir i nodi pryd y bydd y datganiadau amrywiol yn berthnasol, ac mae'n ymddangos yn rhesymegol i gyd-fynd â system y Coleg Optometryddion er eglurder ac i osgoi dyblygu.