Ymateb i'r cynnig i greu Ffederasiwn Addysg Gofal Iechyd

21 Medi 2017

Yn ein hymateb, mynegwyd cefnogaeth i ddull mwy cydweithredol o ymarfer gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol a mwy o ffocws ar ddysgu rhyngbroffesiynol lle bo’n briodol. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o werth cyd-ddealltwriaeth a gwerthoedd a rennir o fewn y tîm gofal iechyd ar sut i amddiffyn cleifion a sicrhau gofal o ansawdd. Mae’r heriau niferus a chymhleth sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd heddiw, megis poblogaeth sy’n heneiddio a chynnydd mewn cyflyrau iechyd hirdymor, yn gofyn am ddull cydweithredol ac nid oes gan yr un proffesiwn yr allwedd i fynd i’r afael â’r rhain ar ei ben ei hun. At hynny, roedd argymhellion o adolygiadau fel y rhai o adroddiad Francis ar Ganol Swydd Stafford, yn rhoi llawer iawn o bwyslais ar greu diwylliant cyffredin mewn perthynas â bod yn agored, yn dryloyw ac yn onest.