Ymateb i Reoleiddio Arfaethedig Cwnselwyr a Seicotherapyddion o dan Ddeddf Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2005 – Sylwadau gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol
11 Ebrill 2017
Ynghlwm mae ein hymateb i Reoleiddio Arfaethedig Cwnselwyr a Seicotherapyddion o dan Ddeddf Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2005.
Rôl a chylch gwaith yr Awdurdod Safonau Proffesiynol
O dan ein deddfwriaeth rydym hefyd yn gweithredu’r rhaglen Cofrestrau Achrededig lle rydym yn asesu sefydliadau sy’n cofrestru ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt wedi’u rheoleiddio gan y gyfraith i sicrhau eu bod yn bodloni ein set o safonau. Ar hyn o bryd mae 23 o gofrestrau wedi'u hachredu o dan y cynllun.
Weithiau byddwn yn cynnal comisiynau ac adolygiadau rhyngwladol. Yn 2014 cawsom ein comisiynu gan Swyddfa Bwyd ac Iechyd Hong Kong i weithio gyda Phrifysgol Tsieineaidd Hong Kong, i archwilio dichonoldeb cynllun tebyg i'r rhaglen Cofrestrau Achrededig. Ers hynny, mae Llywodraeth Hong Kong wedi cyhoeddi ei bwriad i lansio cynllun cofrestrau achrededig ar gyfer 'proffesiynau gofal iechyd atodol' eleni. Hefyd yn 2014 fe wnaethom gynnal adolygiad o brosesau addasrwydd i ymarfer ar gyfer Bwrdd Nyrsio a Bydwreigiaeth Iwerddon.
Ein diddordeb yn y mater hwn
Rydym yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn gan Lywodraeth Iwerddon ar reoleiddio cwnselwyr a seicotherapyddion. Er nad oes gennym gylch gwaith uniongyrchol o oruchwylio rheoleiddio proffesiynol yn Iwerddon fel sydd gennym yn y DU, fel y crybwyllwyd, rydym wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau gyda’n syniadau ar wella rheoleiddio ac yn cyfnewid gwybodaeth yn rheolaidd â chydweithwyr yn rhyngwladol am reoleiddio da.
Fel y crybwyllwyd, rydym hefyd yn gweithredu'r rhaglen Cofrestrau Achrededig y nodwn y cyfeirir ati yn yr adroddiad gan CORU, y Cyngor Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar reoleiddio cwnselwyr a seicotherapyddion. Gobeithiwn felly y bydd ein sylwadau yn ddefnyddiol i Lywodraeth Iwerddon.