Rydym am fod mor agored â phosibl. Rydym yn croesawu’r hawliau mynediad at wybodaeth a nodir yn Neddf Diogelu Data 2018, GDPR y DU a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Deddf Diogelu Data a GDPR y DU
Mae Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU yn sicrhau ein bod yn gofalu am unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym yn briodol. Mae hefyd yn rhoi’r hawl i chi ofyn am gopi o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth gan gynnwys sut i wneud cais yn ein Polisi Deddf Diogelu Data yn y rhestr o ddolenni isod.
Deddf Rhyddid Gwybodaeth
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn rhoi’r hawl i chi ofyn am unrhyw wybodaeth swyddogol gofnodedig sydd gennym nad yw’n ymwneud â chi’n bersonol.
Mae rhagor o wybodaeth gan gynnwys sut i wneud cais ar gael yn ein Polisi Deddf Rhyddid Gwybodaeth. Mae canllaw i’r wybodaeth ar gael o dan y Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth.