Prif gynnwys
Baner tudalen

Edrychwch Cyn i Chi Archebu - Sganiau Beichiogrwydd

Oeddech chi'n gwybod y gall unrhyw un alw ei hun yn sonograffydd a chynnal sganiau beichiogrwydd preifat? Hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw hyfforddiant na chymwysterau.
 

Pan welwch chi'r Marc Ansawdd, a ddangosir yma, mae'n arwydd eich bod chi'n archebu apwyntiad gydag ymarferydd sydd ar gofrestr a gefnogir gan y llywodraeth. Mae hyn yn golygu eu bod nhw'n gymwys, bod angen iddyn nhw gael yr yswiriant cywir, a bod ganddyn nhw broses gwyno y gallwch chi ei defnyddio os bydd rhywbeth yn digwydd nad ydych chi'n hapus ag ef. 
 

Gwirio eich sonograffydd?
Gall sonograffwyr fod â chefndiroedd proffesiynol gwahanol. Mae rhai wedi'u cofrestru fel radiograffwyr gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC), fel bydwragedd gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC), neu fel meddygon gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC). Cyn i chi archebu, gofynnwch i'r person sy'n cynnal eich sgan pa gofrestr broffesiynol y maent arni a gwiriwch eu cofrestru. Gallwch hefyd ddod o hyd i sonograffydd o un o'r cofrestrau isod.

Er mwyn tawelwch meddwl, Edrychwch Cyn i Chi Archebu bob amser. 

Logo Marc Ansawdd
Delwedd yn dangos menyw feichiog yn cael sgan

Y Gofrestr o Dechnolegwyr Clinigol

Sonograffwyr y gallwch ymddiried ynddynt. 

Dewch o hyd i sonograffydd heddiw

Barn partneriaid ymgyrchu yw eu barn eu hunain ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn y PSA