Oeddech chi'n gwybod y gall unrhyw un gynnig triniaethau cosmetig fel Botox a llenwyr gwefusau? Hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw hyfforddiant na chymwysterau.
Pan welwch chi'r Marc Ansawdd, a ddangosir yma, mae'n arwydd eich bod chi'n archebu apwyntiad gydag ymarferydd sydd ar gofrestr a gefnogir gan y llywodraeth. Mae hyn yn golygu eu bod nhw'n gymwys, bod angen iddyn nhw gael yr yswiriant cywir, a bod ganddyn nhw broses gwyno y gallwch chi ei defnyddio os bydd rhywbeth yn digwydd nad ydych chi'n hapus ag ef.
Edrychwch ar y cofrestrau isod sydd ill dau yn cynnwys rhestrau o ymarferwyr y gallwch ddewis ohonynt.
Er mwyn tawelwch meddwl, Edrychwch Cyn i Chi Archebu bob amser.