Prif gynnwys
Baner tudalen

Edrychwch Cyn i Chi Archebu

Oeddech chi'n gwybod y gall unrhyw un gynnig triniaethau cosmetig fel Botox a llenwyr gwefusau? Hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw hyfforddiant na chymwysterau.

 

Pan welwch chi'r Marc Ansawdd, a ddangosir yma, mae'n arwydd eich bod chi'n archebu apwyntiad gydag ymarferydd sydd ar gofrestr a gefnogir gan y llywodraeth. Mae hyn yn golygu eu bod nhw'n gymwys, bod angen iddyn nhw gael yr yswiriant cywir, a bod ganddyn nhw broses gwyno y gallwch chi ei defnyddio os bydd rhywbeth yn digwydd nad ydych chi'n hapus ag ef. 
 

Edrychwch ar y cofrestrau isod sydd ill dau yn cynnwys rhestrau o ymarferwyr y gallwch ddewis ohonynt. 
 

Er mwyn tawelwch meddwl, Edrychwch Cyn i Chi Archebu bob amser. 

Logo Marc Ansawdd
Dyn yn derbyn triniaeth laser ar ei gefn

Cyd-gyngor Ymarferwyr Cosmetig

Ymarferwyr cosmetig y gallwch ymddiried ynddynt. 

Dewch o hyd i ymarferydd cosmetig heddiw
Menyw yn cael Botox

Arbed Wyneb

Ymarferwyr cosmetig y gallwch ymddiried ynddynt. 

Dewch o hyd i ymarferydd cosmetig heddiw