Alan Clamp - cyflwyniad
21 Tachwedd 2018
Yn y blog cyntaf hwn, mae Alan Clamp yn esbonio, er ei fod yn newydd o bosibl i’r Awdurdod Safonau Proffesiynol, ei fod yn hen law o ran rheoleiddio.
Ddechrau’r mis hwn roeddwn yn falch iawn o ymgymryd â rôl prif weithredwr yr Awdurdod Safonau Proffesiynol. Mae’n fraint gweithio i sefydliad sy’n chwarae rhan hanfodol wrth gynnal a gwella safonau proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Yn y blogbost byr hwn, hoffwn gymryd ychydig funudau i gyflwyno fy hun a rhannu rhai syniadau am rôl yr Awdurdod.
Felly, pwy ydw i? Wel, mae rheoleiddio yn fy DNA i. Rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau rheoleiddio yn y sectorau addysg, iechyd, cyfreithiol a diogelwch ers dros 20 mlynedd. Rwyf wedi bod yn brif weithredwr ar ddau reoleiddiwr statudol; yr Awdurdod Meinweoedd Dynol ac, yn fwyaf diweddar, Awdurdod y Diwydiant Diogelwch. Yn y rolau hynny, deuthum yn gyfarwydd â gweithio'n agos ag adrannau'r llywodraeth, rheoleiddwyr eraill a'r GIG. Ac yn awr, rwy’n dod â’m profiad a’m brwdfrydedd i’r Awdurdod ar adeg pan fo’r awydd am ddiwygio rheoleiddiol yn cyflymu.
Rwy'n falch iawn o fod yma. Mae'r Awdurdod yn gwneud gwaith pwysig ac rwy'n ffodus i weithio gyda thîm dawnus o staff arbenigol. Rheoleiddio symlach, mwy ymatebol, effeithiol ac effeithlon sy'n arwain at safonau uwch a gwell amddiffyniad rhag niwed. Dyna ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Mewn araith ddiweddar, dywedodd yr ysgrifennydd iechyd, Matt Hancock, 'Mae gwella diogelwch cleifion yn ymrwymiad penderfynol a diwyro gennym ni i gyd.' Yn fy marn i, mae hynny'n wir am weithwyr proffesiynol, sefydliadau, rheoleiddwyr a'r Awdurdod Safonau Proffesiynol. Mae gennym ni rolau gwahanol, ond rydyn ni ar yr un tîm. Mae cael rheoleiddio yn iawn yn ffactor allweddol o ran diogelwch cleifion. Nid oes lle i laesu dwylo.
Deunydd Cysylltiedig
Yr Awdurdod yn cyhoeddi ei brif weithredwr newydd - datganiad i'r wasg Gorffennaf 2018