Yr Awdurdod yn cyhoeddi ei brif weithredwr newydd
19 Gorffennaf 2018
Mae Alan Clamp wedi’i benodi’n Brif Weithredwr newydd yr Awdurdod Safonau Proffesiynol a bydd yn cymryd y rôl oddi wrth Harry Cayton ar 1 Tachwedd 2018.
Mae Alan wedi bod yn Brif Weithredwr Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA) ers 2015. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys pedair blynedd fel Prif Weithredwr yr Awdurdod Meinweoedd Dynol (HTA); arwain Is-adran Ymchwil a Dadansoddi Ofsted; a Chyfarwyddwr Rhaglen yr Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a Chwricwlwm.
Wrth gyhoeddi’r penodiad, croesawodd George Jenkins Cadeirydd yr Awdurdod Safonau Proffesiynol Alan a’r sgiliau a’r profiad rheoleiddio eang sydd ganddo i’r rôl, ‘Bydd Alan yn ymuno â’r Bwrdd ac yn arwain tîm yr Awdurdod i ddatblygu rheoleiddio ymhellach yn ein hymgyrch i amddiffyn y cyhoedd yn sector iechyd a gofal cymdeithasol newidiol a heriol yn y DU.'
Dywedodd Alan Clamp,
'Rwy'n falch iawn o gael ymuno â'r Awdurdod Safonau Proffesiynol. Bydd yn fraint gwasanaethu fel Prif Weithredwr ac edrychaf ymlaen at weithio gyda thîm o gydweithwyr ymroddedig ac arbenigol ar flaenoriaethau presennol y sefydliad ac yn y dyfodol.
'Mae'r Awdurdod yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu'r cyhoedd drwy godi safonau o ran cofrestru a rheoleiddio pobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Nid yw'r heriau yn y sector iechyd erioed wedi bod yn fwy ac rwy'n gobeithio gallu dod â'm profiad blaenorol ym maes rheoleiddio er budd cleifion a'r cyhoedd.'
Bydd Harry Cayton yn aros gyda'r Awdurdod tan fis Hydref. Penodwyd Alan Clamp gan Gadeirydd ac aelodau anweithredol Bwrdd yr Awdurdod yn dilyn cystadleuaeth agored.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: Christine Braithwaite
Cyfarwyddwr, Safonau a Pholisi
E-bost: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Derbynfa: 020 7389 8030
E-bost: info@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk