Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi adolygiad strategol o'r rhaglen Cofrestrau Achrededig
08 Mehefin 2020
Mae'r Awdurdod yn bwriadu cynnal adolygiad strategol o'r rhaglen Cofrestrau Achrededig eleni. Dyma’r adolygiad cynhwysfawr cyntaf o’r rhaglen ers ei chreu yn 2012.
Rhagwelir y bydd hwn yn adolygiad cyflym a bydd opsiynau rhagarweiniol yn cael eu cytuno erbyn diwedd yr haf.
Mae Bwrdd yr Awdurdod wedi cytuno ar y cylch gorchwyl. Maent fel a ganlyn:
- Ystyried i ba raddau y mae’r rhaglen wedi cyflawni’r nod ar ei chyfer, a nodir yn Galluogi Rhagoriaeth a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012, ac os nad yw, pam.
- Nodi opsiynau ariannu i gyflawni cynaliadwyedd ariannol.
- Ystyried cwmpas y rhaglen ac a yw meini prawf yr Awdurdod ar gyfer cynnwys neu eithrio galwedigaethau yn gadarn.
- Nodi sut y gallai'r rhaglen Cofrestrau Achrededig gyflawni'r hyn sydd ei angen arni fel bod mwy o fudd o'r sicrwydd y mae'n ei roi.
- Gwneud argymhellion ar gyfer ffurf y rhaglen Cofrestrau Achrededig yn y dyfodol.
Gwahoddir cyfraniadau gan bartïon â diddordeb. Bydd yr Awdurdod yn rhyddhau rhagor o wybodaeth am hyn maes o law.
Cyswllt:
Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi
E-bost: Christine.Braithwaite@professionalstandarsd.org.uk
E-bost: info@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk