Prif gynnwys

Awdurdod yn apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol yn achos Michael Watt

29 Tachwedd 2021

Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi ffeilio apêl yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol y Cyngor Meddygol Cyffredinol ('y Tribiwnlys') i ganiatáu dilead gwirfoddol i Dr Michael Watt.  

Mae'r Awdurdod wedi cyfeirio'r mater i'r Uchel Lys Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon oherwydd ei bryder nad oedd y penderfyniad yn ddigon i amddiffyn y cyhoedd. Mae'r Awdurdod yn pryderu bod penderfyniad y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad drwy fethu â rhoi digon o bwys ar les y cyhoedd yn yr achos hwn sy'n cael ei ystyried mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer a bod gwallau gweithdrefnol yn ymagwedd y panel.  

Yn unol â hynny, mae'r Awdurdod yn gofyn i'r Llys ddileu'r penderfyniad i ganiatáu dileu gwirfoddol a rhoi gorchymyn yn gwrthod dileu gwirfoddol yn ei le. Ceir gwybodaeth am bŵer yr Awdurdod i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir gan gyrff rheoleiddio ar ein gwefan .

Mae'r Awdurdod yn gofyn i aelodau'r wasg a'r cyhoedd barchu preifatrwydd Dr Watt a'r cleifion a'r teuluoedd sy'n ymwneud â'r holl faterion cysylltiedig tra bod y gweithrediadau hyn yn mynd rhagddynt. Yn unol â'i drefn arferol, ni fydd yr Awdurdod yn darparu unrhyw sylw pellach ar y trafodion yn ystod y cyfnod hwn.

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk