Awdurdod yn colli apêl yn achos Dr Michael Watt
14 Mehefin 2022
Fe wnaethom ffeilio ein hapêl ym mis Tachwedd 2021 yn erbyn penderfyniad y Tribiwnlys Ymarferwyr Meddygol i ganiatáu dilead gwirfoddol i Dr Michael Watt (gan olygu ei fod wedi cael ei dynnu oddi ar gofrestr y Cyngor Meddygol Cyffredinol cyn y gellid cynnal unrhyw gamau disgyblu). Cyfeiriasom y mater at yr Uchel Lys Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon oherwydd pryderon nad oedd y penderfyniad hwn yn ddigon i amddiffyn y cyhoedd.
Roedd y gwrandawiad a gynhaliwyd ar 10 a 13 Mehefin 2022 yn wrandawiad rhagarweiniol i benderfynu a yw'r penderfyniad i ganiatáu dileu gwirfoddol Dr Watt yn dod o fewn awdurdodaeth adran 29 yr Awdurdod. Nid hon oedd yr apêl adran 29 ei hun.
Bu'r Uchel Lys Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon yn ystyried cyflwyniadau gan yr holl bartïon dan sylw, gan gynnwys dau glaf a oedd wedi cyflwyno achos adolygiad barnwrol yn erbyn penderfyniad MPTS.
Daeth y Llys i’r farn bod MPTS, wrth ganiatáu’r cais am ddileu gwirfoddol, yn gwneud penderfyniad gweinyddol o dan a31A o Ddeddf Feddygol 1983 ac nid penderfyniad o dan a35D o Ddeddf Feddygol 1983. Ystyriodd y Llys gwmpas awdurdodaeth yr Awdurdod a daeth i'r casgliad nad oedd yn cynnwys penderfyniadau a31A. Y canlyniad yw nad oes gan yr apêl, a gyflwynwyd gan yr Awdurdod, unrhyw effaith gyfreithiol.
Dywedodd y Llys y gallai hyn fod yn fwlch yn y ddeddfwriaeth, a byddwn yn ystyried hyn yng nghyd-destun y rhaglen barhaus o ddiwygio rheoleiddio.
Rydym yn siomedig na chafodd y Llys ei berswadio gan ein dadleuon. Fodd bynnag, credwn fod hwn yn achos prawf pwysig i'w ddwyn. Rydym yn parhau i fod yn bryderus bod diffyg unrhyw ymchwiliad i'r honiadau yn erbyn Dr Watt yn parhau i gael effaith negyddol ar hyder y cyhoedd a chynnal safonau yn y proffesiwn.
Rydym yn ystyried penderfyniad y Llys a’n camau nesaf.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk