Yr Awdurdod yn cyhoeddi adroddiad ymgynghori ar gyflwyno Safon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Cofrestrau Achrededig
05 Mai 2023
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i gyflwyno Safon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) ar gyfer Cofrestrau Achrededig, mae'r Awdurdod yn cyhoeddi'r adroddiad cryno.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 25 Hydref 2022 a 17 Ionawr 2023. Cawsom ystod eang o ymatebion a oedd yn cefnogi cyflwyno Safon newydd. Rydym wedi dadansoddi'r holl ymatebion a byddwn yn cyhoeddi cynlluniau pellach ar gyflwyno'r Safon yn yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Alan Clamp, Prif Weithredwr yr Awdurdod Safonau Proffesiynol:
'Rydym wedi ymrwymo i wneud mwy i hyrwyddo EDI a gweithio gyda'r rhai rydym yn eu goruchwylio i gryfhau eu hymagwedd. Mae Safon EDI benodol ar gyfer Cofrestrau Achrededig yn gam cadarnhaol.'
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk