Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad blynyddol o'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol ar gyfer 2017/18
28 Medi 2018
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol (Awdurdod) wedi cyhoeddi ei adolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol . Mae cofrestr y GPhC yn cynnwys 78,625 o weithwyr fferyllol proffesiynol (fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol) a bron i 14,350 o adeiladau fferyllol ym Mhrydain Fawr.
Aseswyd perfformiad y GPhC yn erbyn ein Safonau Rheoleiddio Da ac rydym yn falch o adrodd bod y GPhC wedi bodloni pob un o'r Safonau am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan gynnal y gwelliant a nodwyd gennym yn ein dau adolygiad perfformiad blaenorol.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y daethom i’n penderfyniad wedi’i nodi yn ein Hadolygiad Perfformiad - CFfC 2017/18 neu grynodeb dwy dudalen yn ein ciplun .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi
E-bost: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Derbynfa: 020 7389 8030
E-bost: info@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
- Mae’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn rheoleiddio fferyllwyr, technegwyr fferyllol a fferyllfeydd ym Mhrydain Fawr. Ar 31 Mawrth 2018, roedd 55,258 o fferyllwyr, 23,367 o dechnegwyr fferyllol, a 14,348 o fferyllfeydd ar ei gofrestr. Ei ffioedd cofrestru blynyddol yw: £250 (fferyllwyr); £118 (technegwyr fferyllfa); a £241 (fferyllfeydd).
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk