Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer 2021/22
16 Rhagfyr 2022
Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad perfformiad blynyddol o’r GDC. Yn ystod 2021/22, fe wnaethom gynnal adolygiad cyfnodol o berfformiad y GDC yn erbyn y Safonau Rheoleiddio Da (y Safonau).
Ar gyfer y cyfnod hwn, mae’r GDC wedi bodloni 16 o’r 18 Safon. Mae ein hadroddiad yn egluro sut y gwnaethom ein penderfyniad.
Ni chyflawnodd y GDC un o’n pedair Safon gofrestru, oherwydd yr amser y mae’n ei gymryd i brosesu ceisiadau ac apeliadau. Mae rhai ffactorau sydd wedi cyfrannu at y cynnydd hwnnw y tu allan i reolaeth uniongyrchol y GDC ac mae'r GDC wedi rhoi mesurau ar waith i wella ei berfformiad. Byddwn yn monitro effaith y mesurau hyn ar brydlondeb ei brosesau cofrestru.
Ni chyflawnodd y GDC ein Safon ar gyfer prydlondeb mewn addasrwydd i ymarfer: mae’n cymryd gormod o amser i symud achosion drwy’r system, ac mae nifer yr achosion hŷn agored wedi cynyddu. Mae’r GDC yn cydnabod bod yr oedi hwn yn cael effaith ar y bobl sy’n codi pryderon a’r gweithwyr proffesiynol sy’n destun ymchwiliad ac mae’n gweithio i fynd i’r afael â’i broblemau staffio hirsefydlog. Mae’r GDC wedi cyflwyno DPAau Addasrwydd i Ymarfer newydd yn ystod y cyfnod adolygu hwn ac mae hefyd wedi gwneud rhai newidiadau i’w broses addasrwydd i ymarfer. Fodd bynnag, nid yw'r mesurau hyn wedi cael effaith eto ar yr amser y mae'n ei gymryd i brosesu achosion.
Dyma’r bumed flwyddyn yn olynol nad yw’r GDC wedi cyrraedd y Safon. Rydym wedi cymryd camau o dan ein polisi uwchgyfeirio ac wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i godi ein pryderon. Byddwn yn monitro gwaith y GDC i wella ei berfformiad yn y maes hwn.
Yr adolygiad perfformiad yw ein gwiriad o ba mor dda y mae’r rheolyddion wedi bod yn amddiffyn y cyhoedd ac yn hybu hyder yn y proffesiynau iechyd a gofal. Gwnawn hyn drwy asesu eu perfformiad yn erbyn ein Safonau. Mae'r dyfarniadau a wnawn yn erbyn pob Safon yn ymgorffori ystod o dystiolaeth i lunio darlun cyffredinol o berfformiad. Mae cyrraedd Safon yn golygu ein bod yn fodlon bod rheolydd yn perfformio'n dda yn y maes hwnnw.
Ym mis Ionawr 2022, rhoddwyd dull adolygu perfformiad newydd ar waith, gan ddechrau gyda chylch adolygiadau 2021/22. Yn y broses newydd, rydym yn cynnal 'adolygiad cyfnodol' o bob rheolydd bob tair blynedd. Dyma ein cyfle i edrych yn fanwl ar bob agwedd ar waith y rheolydd. Rhwng yr adolygiadau hyn, rydym yn monitro eu perfformiad, gan ganolbwyntio ar feysydd risg. Eleni, fe wnaethom gynnal adolygiad cyfnodol o’r GDC a chynnal adolygiad achos i werthuso effeithiolrwydd y mecanweithiau sicrhau ansawdd yng nghamau cynnar ei broses addasrwydd i ymarfer. Cawsom ein sicrhau trwy ein hadolygiad o wiriadau'r GDC ar ansawdd ei benderfyniadau. Yn ogystal, siaradom ag amrywiaeth o randdeiliaid a oedd wedi ymgysylltu â’r GDC yn ystod cyfnod yr adolygiad er mwyn cael eu safbwyntiau ar ei berfformiad.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk