Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer 2022/23

15 Rhagfyr 2023

Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC). Yn ystod 2022/23, buom yn monitro perfformiad y GDC yn erbyn y Safonau Rheoleiddio Da (y Safonau).

Ar gyfer y cyfnod hwn, mae’r GDC wedi bodloni 16 o’r 18 Safon. Ein hadroddiad yn egluro sut y gwnaethom ein penderfyniad.

Ni chyflawnodd y GDC un o’n pedair Safon gofrestru, oherwydd yr amser y mae’n ei gymryd i brosesu ceisiadau. Mae rhai ffactorau sydd wedi cyfrannu at y cynnydd hwnnw y tu allan i reolaeth uniongyrchol y GDC ac mae'r GDC wedi rhoi mesurau ar waith i wella ei berfformiad. Byddwn yn monitro effaith y mesurau hyn ar brydlondeb ei brosesau cofrestru.

Ni chyflawnodd y GDC ein Safon ar gyfer prydlondeb mewn addasrwydd i ymarfer oherwydd ei fod yn dal i gymryd gormod o amser i ymdrin ag achosion. Byddwn yn monitro gwaith y GDC i wella ei berfformiad yn y maes hwn.

Yr adolygiad perfformiad yw ein gwiriad o ba mor dda y mae’r rheolyddion wedi bod yn amddiffyn y cyhoedd ac yn hybu hyder yn y proffesiynau iechyd a gofal. Gwnawn hyn drwy asesu eu perfformiad yn erbyn ein Safonau. Mae'r dyfarniadau a wnawn yn erbyn pob Safon yn ymgorffori ystod o dystiolaeth i lunio darlun cyffredinol o berfformiad. Mae cyrraedd Safon yn golygu ein bod yn fodlon bod rheolydd yn perfformio'n dda yn y maes hwnnw.

Ym mis Ionawr 2022, rhoddwyd dull adolygu perfformiad newydd ar waith, gan ddechrau gyda chylch adolygiadau 2021/22. Yn y broses newydd, rydym yn cynnal 'adolygiad cyfnodol' o bob rheolydd bob tair blynedd. Dyma ein cyfle i edrych yn fanwl ar bob agwedd ar waith y rheolydd. Rhwng yr adolygiadau hyn, rydym yn monitro eu perfformiad, gan ganolbwyntio ar feysydd risg. Eleni, fe wnaethom gynnal adolygiad monitro o’r CDC. Yn ogystal, siaradom ag amrywiaeth o randdeiliaid a oedd wedi ymgysylltu â’r GDC yn ystod cyfnod yr adolygiad er mwyn cael eu safbwyntiau ar ei berfformiad.

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk
     

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion