Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Optegol Cyffredinol ar gyfer 2017/18
25 Medi 2019
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi cyhoeddi ei adolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC). Rydym yn adolygu pob un o'r rheolyddion iechyd a gofal cymdeithasol statudol bob blwyddyn i asesu a ydynt yn bodloni ein Safonau Rheoleiddio Da . Mae cofrestr y GOC yn cynnwys tua 28,000 o weithwyr optegol proffesiynol (optometryddion, optegwyr dosbarthu a myfyrwyr) sy'n ymarfer yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â 2,740 o fusnesau optegol.
Mae'r GOC wedi cwrdd â 22 allan o 24 o'n Safonau Rheoleiddio Da. Ni chyflawnodd y GOC Safon 3 ar gyfer Cofrestru gan i ni nodi rhai materion yn ymwneud â chywirdeb ei gofnodion ar y gofrestr mewn perthynas â phenderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol. Mae’r GOC wedi cywiro’r gwallau hyn ac wedi cymryd camau i sicrhau nad ydynt yn digwydd eto, er bod hyn wedi digwydd ar ôl diwedd y cyfnod adolygu perfformiad. Mae Safon 6 ar gyfer Addasrwydd i Ymarfer yn parhau heb ei bodloni gan fod y GOC yn dal i gymryd gormod o amser i symud achosion ymlaen.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y daethom i’n penderfyniad wedi’i nodi yn ein Hadolygiad Perfformiad - GOC 2017/18 neu gallwch ddarllen crynodeb yn ein ciplun dwy dudalen .
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi
Derbynfa: 020 7389 8030
E: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Mae'r Safonau Rheoleiddio Da wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Mae'r Safonau'n cwmpasu pedair swyddogaeth graidd y rheolyddion: gosod a hyrwyddo canllawiau a safonau ar gyfer y proffesiwn; gosod safonau a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol; a chymryd camau lle gallai addasrwydd gweithiwr proffesiynol i ymarfer gael ei amharu.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
- Mae'r Cyngor Optegol Cyffredinol (GOC) yn rheoleiddio'r proffesiynau optegol yn y Deyrnas Unedig. Mae ei waith yn cynnwys: gosod a chynnal safonau ymarfer ac ymddygiad; sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant optegol; cynnal cofrestr o fyfyrwyr, gweithwyr proffesiynol cymwys a busnesau optegol; ei gwneud yn ofynnol i weithwyr optegol proffesiynol ddiweddaru eu sgiliau trwy addysg a hyfforddiant parhaus; a gweithredu i gyfyngu ar neu ddileu unigolion cofrestredig nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas i ymarfer. Ar 30 Rhagfyr 2018, roedd y GOC yn gyfrifol am gofrestr o 27,976 o weithwyr proffesiynol optegol a myfyrwyr a 2,740 o fusnesau optegol. Ei ffi gadw flynyddol ar gyfer gweithwyr optegol proffesiynol oedd £330 ar gyfer 2017/18 a £340 ar gyfer 2018/19.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk