Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Osteopathig Cyffredinol ar gyfer 2017/18
13 Rhagfyr 2018
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi cyhoeddi ei adolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol . Rydym yn adolygu pob un o’r rheolyddion iechyd a gofal cymdeithasol statudol bob blwyddyn i asesu a ydynt yn bodloni ein Safonau Rheoleiddio Da ac yn diogelu’r cyhoedd. Mae cofrestr y GOsC yn cynnwys 5,239 o osteopathiaid sy'n ymarfer yn y Deyrnas Unedig.
Rydym yn falch o weld bod y GOsC wedi parhau i fodloni pob un o'n 24 o Safonau Rheoleiddio Da. Mae'n cynnal ei berfformiad da fel rheolydd. Roedd gennym rai pryderon am y ffordd yr oedd y GOsC wedi cynnal ei ymchwiliad cychwynnol i gwynion ond nid oedd yn ystyried bod y rhain yn ddigon i olygu nad oedd y Safonau’n cael eu bodloni. Gwnaethom nodi bod y GOsC yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r rhain. Rydym wedi nodi’r pryderon hyn yn adran addasrwydd i ymarfer yr adroddiad.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y daethom i’n penderfyniad wedi’i nodi yn ein Hadolygiad Perfformiad Blynyddol GOsC 2017/18 neu darllenwch grynodeb yn ein ciplun .
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi
Derbynfa: 020 7389 8030
E: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Mae'r Safonau Rheoleiddio Da wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Mae'r Safonau'n cwmpasu pedair swyddogaeth graidd y rheolyddion: gosod a hyrwyddo canllawiau a safonau ar gyfer y proffesiwn; gosod safonau a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol; a chymryd camau lle gallai addasrwydd gweithiwr proffesiynol i ymarfer gael ei amharu.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
- Mae'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) yn rheoleiddio'r arfer o osteopathi yn y Deyrnas Unedig. Mae ei waith yn cynnwys: gosod a chynnal safonau ymarfer ac ymddygiad osteopathig; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol cymwys; sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant osteopathig; a chymryd camau i gyfyngu ar neu ddileu unigolion cofrestredig yr ystyrir eu bod yn anaddas i ymarfer. Ar 31 Rhagfyr 2017, roedd y GOsC yn gyfrifol am gofrestr o 5,239 o osteopathiaid. Y ffi ar gyfer cofrestru yw £320 am y flwyddyn gyntaf, £430 am yr ail flwyddyn a £570 am bob blwyddyn ddilynol.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk