Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Osteopathig Cyffredinol ar gyfer 2020/21
29 Tachwedd 2021
Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol (yr Awdurdod) wedi cyhoeddi ei adolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC). Rydym yn adolygu pob un o'r rheolyddion iechyd a gofal cymdeithasol statudol bob blwyddyn i asesu a ydynt yn bodloni ein Safonau Rheoleiddio Da. Ar adeg yr asesiad, mae cofrestr y GOsC yn cwmpasu tua 5,400 o osteopathiaid sy'n ymarfer yn y Deyrnas Unedig.
Rydym wedi asesu perfformiad y GOsC yn erbyn ein Safonau Rheoleiddio Da ac rydym yn falch o adrodd bod y GOsC, ar gyfer y cyfnod adolygu hwn, wedi bodloni'r holl Safonau Rheoleiddio Da. Mae'r dyfarniadau a wnawn yn erbyn pob Safon yn ymgorffori ystod o dystiolaeth i lunio darlun cyffredinol o berfformiad. Mae cyrraedd Safon yn golygu, yn seiliedig ar y wybodaeth yr ydym wedi'i hadolygu, ein bod yn fodlon bod rheolydd yn perfformio'n dda yn y maes hwnnw. Fodd bynnag, nid yw'n golygu nad oes unrhyw feysydd i'w gwella, a nodwn unrhyw bryderon yn ein hadroddiad.
Mae rhagor o wybodaeth am sut y daethom i’n penderfyniad wedi’i nodi yn ein Hadolygiad Perfformiad - GOsC 2020/21 neu darllenwch grynodeb yn ein ciplun .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) yn rheoleiddio ymarfer osteopathi yn y Deyrnas Unedig. Mae ei waith yn cynnwys: gosod a chynnal safonau ymarfer ac ymddygiad osteopathig; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol cymwys; sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant osteopathig; a chymryd camau i gyfyngu ar neu ddileu unigolion cofrestredig yr ystyrir eu bod yn anaddas i ymarfer. Ar 31 Rhagfyr 2020, roedd y GOsC yn gyfrifol am gofrestr o 5,438 o osteopathiaid. Y ffi ar gyfer cofrestru yw £320 am y flwyddyn gyntaf, £430 am yr ail flwyddyn a £570 am bob blwyddyn ddilynol.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk