Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Osteopathig Cyffredinol ar gyfer 2021/22
29 Mehefin 2022
Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC). Rhwng Ionawr 2021 a Mawrth 2022, buom yn monitro perfformiad y GOsC yn erbyn y Safonau Rheoleiddio Da (y Safonau).
Ar gyfer y cyfnod hwn, mae’r GOsC wedi bodloni pob un o’r 18 Safon. Mae ein hadroddiad yn egluro sut y gwnaethom ein penderfyniad.
Yr adolygiad perfformiad yw ein gwiriad o ba mor dda y mae’r rheolyddion wedi bod yn amddiffyn y cyhoedd ac yn hybu hyder yn y proffesiynau iechyd a gofal. Gwnawn hyn drwy asesu eu perfformiad yn erbyn ein Safonau. Mae'r dyfarniadau a wnawn yn erbyn pob Safon yn ymgorffori ystod o dystiolaeth i lunio darlun cyffredinol o berfformiad. Mae cyrraedd Safon yn golygu ein bod yn fodlon bod rheolydd yn perfformio'n dda yn y maes hwnnw.
Ym mis Ionawr 2022, rhoddwyd dull adolygu perfformiad newydd ar waith, gan ddechrau gyda chylch adolygiadau 2021/22. Yn y broses newydd, rydym yn cynnal 'adolygiad cyfnodol' o bob rheolydd bob tair blynedd. Dyma ein cyfle i edrych yn fanwl ar bob agwedd ar waith y rheolydd. Rhwng yr adolygiadau hyn, rydym yn monitro eu perfformiad, gan ganolbwyntio ar feysydd risg. Eleni, fe wnaethom gynnal adolygiad monitro o’r GOsC.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae'r Cyngor Osteopathig Cyffredinol (GOsC) yn rheoleiddio'r arfer o osteopathi yn y Deyrnas Unedig. Mae ei waith yn cynnwys: gosod a chynnal safonau ymarfer ac ymddygiad osteopathig; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol cymwys; sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant osteopathig; a chymryd camau i gyfyngu ar neu ddileu unigolion cofrestredig yr ystyrir eu bod yn anaddas i ymarfer. Ar 31 Mawrth 2022, roedd y GOsC yn gyfrifol am gofrestr o 5,471 o osteopathiaid.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a'r dull a gymerwn ar gael yma .