Yr Awdurdod yn cyhoeddi ei adolygiad o berfformiad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer 2021/22
26 Medi 2022
Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad perfformiad blynyddol o'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC). Rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Mehefin 2022, buom yn monitro perfformiad yr NMC yn erbyn y Safonau Rheoleiddio Da (y Safonau).
Ar gyfer y cyfnod hwn, mae’r NMC wedi bodloni 17 o’r 18 Safon. Mae ein hadroddiad yn egluro sut y gwnaethom ein penderfyniad.
Ni chyflawnodd yr NMC ein Safon ar gyfer prydlondeb mewn addasrwydd i ymarfer. Mae’n cymryd gormod o amser i ymdrin ag achosion addasrwydd i ymarfer ac mae ôl-groniad sylweddol o achosion wedi datblygu. Mae clirio’r ôl-groniad yn brif flaenoriaeth i’r NMC: mae wedi rhoi cynllun gweithredu ar waith ac wedi cyhoeddi adroddiadau cynnydd rheolaidd i’w Gyngor. Ond canlyniadau cymysg a gafodd y cynllun gweithredu eleni, ac mae ôl-groniad ac oedi difrifol o hyd.
Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i’r NMC beidio â bodloni’r Safon. Rydym wedi cymryd camau o dan ein polisi uwchgyfeirio, gan gynnwys ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Byddwn yn monitro gwaith yr NMC yn agos i ddatrys ei ôl-groniad addasrwydd i ymarfer fel y gallwn ddeall ei gynnydd a mynegi pryderon os yw'n ymddangos nad yw ei waith yn effeithiol. Mae’r NMC eisoes wedi ei gwneud yn glir ei fod yn disgwyl i amseroedd cau achosion cyfartalog gynyddu yn y tymor byr, wrth iddo glirio achosion hŷn o’r system. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r NMC a rhanddeiliaid eraill i ddeall a yw ei berfformiad yn gwella.
Yr adolygiad perfformiad yw ein gwiriad o ba mor dda y mae’r rheolyddion wedi bod yn amddiffyn y cyhoedd ac yn hybu hyder yn y proffesiynau iechyd a gofal. Gwnawn hyn drwy asesu eu perfformiad yn erbyn ein Safonau. Mae'r dyfarniadau a wnawn yn erbyn pob Safon yn ymgorffori ystod o dystiolaeth i lunio darlun cyffredinol o berfformiad. Mae cyrraedd Safon yn golygu ein bod yn fodlon bod rheolydd yn perfformio'n dda yn y maes hwnnw.
Ym mis Ionawr 2022, rhoddwyd dull adolygu perfformiad newydd ar waith, gan ddechrau gyda chylch adolygiadau 2021/22. Yn y broses newydd, rydym yn cynnal 'adolygiad cyfnodol' o bob rheolydd bob tair blynedd. Dyma ein cyfle i edrych yn fanwl ar bob agwedd ar waith y rheolydd. Rhwng yr adolygiadau hyn, rydym yn monitro eu perfformiad, gan ganolbwyntio ar feysydd risg. Eleni, fe wnaethom gynnal adolygiad monitro o’r NMC.
DIWEDD
Cyswllt: media@progressionalstandards.org.uk
Nodyn i Olygyddion
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Mae'r Safonau Rheoleiddio Da wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Mae'r Safonau'n cwmpasu pedair swyddogaeth graidd y rheolyddion: gosod a hyrwyddo canllawiau a safonau ar gyfer y proffesiwn; gosod safonau a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol; a chymryd camau lle gallai addasrwydd gweithiwr proffesiynol i ymarfer gael ei amharu. Mae yna hefyd set o Safonau Cyffredinol sy'n ymdrin â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ogystal â pha mor dda y mae'r rheolyddion yn ymgysylltu â rhanddeiliaid.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (yr NMC) yn rheoleiddio’r proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth yn y Deyrnas Unedig a chymdeithion nyrsio yn Lloegr. Mae ei waith yn cynnwys: gosod a chynnal safonau ymarfer ac ymddygiad; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol cymwys; sicrhau ansawdd addysg a hyfforddiant i nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio; ei gwneud yn ofynnol i gofrestreion gadw eu sgiliau'n gyfredol trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus; a chymryd camau i gyfyngu ar neu ddileu unigolion cofrestredig nad ydynt yn cael eu hystyried yn addas i ymarfer. Ar 30 Mehefin 2022, roedd yr NMC yn gyfrifol am gofrestr o 760,444 o nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio. Ei ffi gadw flynyddol ar gyfer cofrestreion yw £120.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a'n dull gweithredu ar gael yma .