Awdurdod yn cyhoeddi adroddiad ar ganlyniad ei ymgynghoriad adolygu perfformiad
19 Awst 2021
Ailedrych ar ein dull o adolygu perfformiad rheolyddion
Penderfynasom ailedrych ar ein hymagwedd at ein proses adolygu perfformiad i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn gymesur ac yn effeithiol. Fel rhan o hyn, cynhaliom ymgynghoriad cyhoeddus rhwng Rhagfyr 2020 a Mawrth 2021.
Roedd yr ymatebion yn hynod ddefnyddiol i ni wrth lunio ein cynigion ac rydym bellach wedi cyhoeddi canlyniadau’r ymgynghoriad.
Mae'r adroddiad yn nodi'r camau nesaf a'r newidiadau allweddol y byddwn yn eu gwneud i'r broses adolygu perfformiad.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn neu grynodeb o'r ystadegau allweddol yn y ffeithlun hwn .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU (Y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, y Cyngor Optegol Cyffredinol, y Cyngor Osteopathig Cyffredinol, y Cyngor Cyffredinol Cyngor Ceiropracteg, Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon a Social Work England).
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd.
- Mae'r adolygiad perfformiad yw ein gwiriad ar ba mor dda y mae’r rheolyddion wedi bod yn amddiffyn y cyhoedd ac yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Gwnawn hyn drwy asesu eu perfformiad yn erbyn ein Safonau Rheoleiddio Da. Rydym yn cyhoeddi adroddiad am bob rheolydd bob blwyddyn. Mae ein hadolygiad perfformiad yn bwysig oherwydd:
- Mae'n dweud wrth bawb pa mor dda y mae'r rheolyddion yn gwneud
- Mae'n helpu'r rheolyddion i wella, wrth i ni nodi cryfderau a phethau i'w gwella ac argymell newidiadau.
- Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym yn ystyried bod sancsiynau’n annigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk