Mae'r Awdurdod yn cyhoeddi adroddiad ymchwil ar gamymddwyn rhywiol

05 Medi 2019

Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol (yr Awdurdod) wedi cyhoeddi adroddiad ymchwil sy’n dadansoddi amgylchiadau achosion o gamymddwyn rhywiol gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. Ariannwyd yr adroddiad gan yr Awdurdod ac ymgymerwyd ag ef gan yr Athro Rosalind Searle, Cadeirydd Rheolaeth Adnoddau Dynol a Seicoleg Sefydliadol ym Mhrifysgol Glasgow.



Mewn Camymddwyn Rhywiol mewn iechyd a gofal cymdeithasol: deall mathau o gam-drin a meddylfryd moesol y cyflawnwyr mae'r Athro Searle wedi adolygu'r llenyddiaeth academaidd ac ymchwil ar y damcaniaethau allweddol a'r esboniadau pam mae'r math hwn o gamymddwyn yn digwydd, ac wedi dadansoddi cofnodion a gedwir gan yr Awdurdod yn 232 achosion addasrwydd i ymarfer yn ymwneud ag unigolion cofrestredig y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, a'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.



Mae canfyddiadau’r Athro Searle yn cynnwys:

  • Gwrywaidd yw'r cyflawnwyr yn bennaf
  • Mae cyflawnwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o dargedu unigolion lluosog dro ar ôl tro, tra bod cyflawnwyr benywaidd yn fwy tebygol o fod ag un targed gyda digwyddiadau lluosog
  • Cleifion yw'r prif grŵp targed, gydag unigolion agored i niwed yn is-gategori sylweddol
  • Gweithleoedd yw'r prif leoliad ar gyfer digwyddiadau, gyda chyflawnwyr yn aml yn gweithio mewn lleoliadau iechyd meddwl
  • Gall gwahaniaethau canfyddedig mewn sancsiynau rheoleiddio greu amwysedd i gyflawnwyr
  • Mae cyflawnwyr yn gwadu ac yn lledaenu cyfrifoldeb am eu gweithredoedd, gan ystumio canlyniadau a beio targedau.

Mae’r Athro Searle yn argymell:

  • Hyfforddiant, goruchwyliaeth a chodi ymwybyddiaeth
  • Polisïau a chanllawiau cliriach, yn enwedig mewn mannau problemus hysbys
  • Ymchwil pellach i ddigwyddiadau mewn lleoliadau iechyd meddwl
  • Fframwaith cliriach ar gyfer gosod sancsiynau ar draws proffesiynau.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma neu weld crynodeb gweledol o'r canfyddiadau allweddol .



DIWEDD



Cyswllt: Douglas Bilton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Safonau a Pholisi

douglas.bilton@professionalstandards.org.uk



Derbynfa: 020 7389 8030



E-bost: info@professionalstandards.org.uk



Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion