Yr Awdurdod yn dod i gytundeb gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar achos Winterbourne View
01 Mai 2018
Apeliodd yr Awdurdod yn erbyn penderfyniad gan banel y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth mewn perthynas â nyrs yn gweithio mewn ysbyty i oedolion ag anabledd dysgu. Roedd honiadau yn erbyn y cofrestrai yn cynnwys bod y cofrestrai wedi dyrnu claf, wedi torri gên y claf ac wedi atal un arall gan ddefnyddio duvet.
Gall yr Awdurdod gyfeirio achos i’r llys perthnasol os yw’n ystyried nad yw penderfyniad perthnasol (canfyddiad, cosb neu’r ddau) yn ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd. Roedd disgwyl i'r achos gael ei glywed yn y Llys ar 1 Mai. Fodd bynnag, mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi cytuno y bydd yr achos yn cael ei drosglwyddo i banel yr NMC i'w ailystyried. Mae'r Awdurdod yn fodlon y bydd y materion a oedd yn peri'r pryder mwyaf, y dyrnu i'r ên honedig a'r defnydd o duvet fel modd o ataliaeth yn cael eu hailystyried yn awr.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: Christine Braithwaite
Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi
Derbynfa: 020 7389 8030
E: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i olygyddion
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio naw corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Mae'r Safonau Rheoleiddio Da wedi'u cynllunio i sicrhau bod y rheolyddion yn amddiffyn y cyhoedd ond hefyd yn hybu hyder mewn gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a nhw eu hunain. Mae'r Safonau'n cwmpasu pedair swyddogaeth graidd y rheolyddion: gosod a hyrwyddo canllawiau a safonau ar gyfer y proffesiwn; gosod safonau a sicrhau ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant; cynnal cofrestr o weithwyr proffesiynol; a chymryd camau lle gallai addasrwydd gweithiwr proffesiynol i ymarfer gael ei amharu.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk