Awdurdod yn dod i benderfyniad yn achos Lockett

22 Ebrill 2020

Mae'r Awdurdod wedi adolygu penderfyniad diweddar panel Addasrwydd i Ymarfer y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ynghylch Helen Lockett. Roedd Ms Lockett yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Nyrs Weithredol yn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cymunedol Lerpwl rhwng 2011 a 2014. Roedd yn wynebu nifer o honiadau difrifol am ei hymddygiad tra yn y swydd honno. Canfu panel yr NMC fod nifer o'r cyhuddiadau wedi'u profi a gosododd gosb ataliad am 12 mis gydag adolygiad i ystyried a oedd hi, ar ddiwedd y 12 mis, yn addas i ddychwelyd i ymarfer.

Mae gan yr Awdurdod y pŵer o dan Adran 29 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 i gyfeirio penderfyniadau gan baneli addasrwydd i ymarfer i'r llysoedd os yw'n ystyried bod y penderfyniad yn annigonol i ddiogelu'r cyhoedd.

Ystyriodd yr Awdurdod yr achos hwn mewn Cyfarfod Achos ar 20 Ebrill 2020. Penderfynodd beidio â chyfeirio’r achos i’r llysoedd oherwydd, o ystyried yr holl ffeithiau yn yr achos a chanfyddiadau’r panel, ni allai fod yn fodlon bod penderfyniad y panel i gosod yr ail sancsiwn mwyaf difrifol sydd ar gael iddo ac a gafodd yr effaith o atal y cofrestrai rhag ymarfer nes ei bod wedi bodloni’r panel ei bod yn addas i ymarfer, yn annigonol i amddiffyn y cyhoedd.

Gallwch ddarllen cofnod y cyfarfod achos a'r rhesymau llawn dros ei benderfyniad yma .

Dysgwch fwy am ein pŵer i apelio yn erbyn penderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol yma .

-yn dod i ben

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyswllt: Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Polisi a Safonau

Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk

Derbynfa: 020 7389 8030 | E-bost: info@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion