Datganiad yr Awdurdod ar bryderon a godwyd ynghylch asesiad cofrestru'r CFfC

08 Mawrth 2021

Rydym wedi derbyn nifer sylweddol o bryderon ynghylch y newidiadau a wnaed i asesiad cofrestru’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol eleni oherwydd pandemig Covid-19 a sut yr ymdriniwyd â’r newidiadau hyn. Rydym yn gwerthfawrogi bod hwn yn fater pwysig i lawer o fferyllwyr cofrestredig dros dro ac rydym yn cydnabod yr effaith y mae canslo asesiadau wedi’i chael. Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd yr amser i roi adborth am eu profiad o’r CFfC mewn perthynas â chofrestriad amodol a’r asesiad cofrestru.

Rydym yn ymwybodol bod y CFfC yn cymryd camau ynglŷn â’r broblem ac yn ddiweddar cyhoeddwyd rhai datganiadau amdani ar ei wefan.

Byddwn yn ymateb i bawb a gyflwynodd gyflwyniadau i'n cais Rhannu Eich Profiad. Rydym yn rhyddhau’r datganiad hwn i egluro ein rôl a sut y byddwn yn ystyried y pryderon a gawsom.

Dylem fod yn glir nad oes gennym unrhyw bŵer i ymyrryd na’i gwneud yn ofynnol i unrhyw newidiadau gael eu gwneud i’r asesiad cofrestru sy’n digwydd yn ddiweddarach y mis hwn. Ni allwn ychwaith ymchwilio i achosion unigol na gweithredu arnynt.

Ein rôl

Mae gennym ddyletswydd i adrodd i’r Senedd ar sut mae’r rheolyddion yn cyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys y gwaith y maent yn ei wneud wrth asesu a chofrestru cofrestreion. Rydym yn cyflawni'r ddyletswydd hon trwy adolygiadau perfformiad blynyddol o bob un o'r rheolyddion.

Y broses adolygu perfformiad

Yn ein hadolygiadau perfformiad, rydym yn casglu gwybodaeth am berfformiad y rheolydd yn ystod y flwyddyn ac yn asesu a yw'r rheolydd yn bodloni ein 18 Safon Rheoleiddio Da . Mae’r Safonau hyn yn cynnwys ystyried pa mor dda y mae’r rheolydd yn rheoli ei bedair swyddogaeth reoleiddio allweddol:

  • Canllawiau a safonau
  • Addysg a hyfforddiant
  • Cofrestru
  • Addasrwydd i ymarfer

Rydym yn gwerthfawrogi'r adborth a gawn gan y rhai sy'n ymgysylltu â'r rheolydd, sy'n rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i ni. Byddwn yn ystyried yr holl bryderon a gawsom am yr asesiadau fel rhan o adolygiad perfformiad eleni o’r CFfC (sy’n cwmpasu’r cyfnod 1 Mawrth 2020 i 28 Chwefror 2021). Lle bo angen byddwn yn codi’r rhain gyda’r CFfC ac yn gofyn am ei sylwadau. 

Yn dilyn hyn, byddwn yn penderfynu a yw’r GPhC wedi bodloni pob Safon a byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad a’n rhesymau mewn adroddiad adolygu perfformiad. Nid yw ein hadroddiadau yn cynnwys manylion unrhyw faterion unigol ond byddant yn trafod meysydd penodol o'i berfformiad sydd wedi'u codi gyda ni ac sy'n peri pryder. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses adolygu perfformiad yma .

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion