Mae'r Awdurdod yn cefnogi datganiad ar y cyd y rheolyddion yn cydnabod yr amgylchiadau heriol a achosir gan y Coronafeirws
14 Ionawr 2021
Rydym yn goruchwylio’r rheolyddion sy’n dal y cofrestrau o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU. Rydym yn croesawu ac yn cefnogi eu datganiad ar y cyd diweddar sy’n cydnabod yr amgylchiadau hynod heriol y mae gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn gweithio ynddynt i ddarparu gofal i’w cleifion a’r bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau. Mae'n parhau i fod yn hanfodol bod gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn parhau i ddarparu gofal cymwys i'w cleifion a bod y rheolyddion yn cynnal eu dyletswyddau statudol yn y maes hwn. Fodd bynnag, rydym ninnau hefyd yn cydnabod yr heriau y mae’r pandemig hwn yn eu hachosi a byddwn yn gweithio gyda’r rheolyddion ar y ffordd orau i’w llywio.
Dywedodd Alan Clamp, Prif Weithredwr yr Awdurdod:
“Rydym i gyd yn hynod ddiolchgar i’r holl weithwyr iechyd a gofal proffesiynol sy’n gweithio mor ddiwyd yn ystod y pandemig hwn. Rydym yn croesawu ac yn cefnogi’r datganiad ar y cyd diweddar gan y rheolyddion i’w cofrestryddion gan roi sicrwydd iddynt y byddant yn rhoi ystyriaeth briodol i’r amgylchiadau hynod heriol y maent yn gweithio oddi tanynt. Hoffem roi sicrwydd i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol y byddwn yn gweithio gyda'r rheolyddion a oruchwyliwn i sicrhau bod y cyd-destun y mae gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol yn gweithio ynddo yn cael ei ystyried yn deg'.
Sylwch: y rheolyddion sydd wedi llofnodi’r datganiad yw:
- Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol
- Cyngor Deintyddol Cyffredinol
- Cyngor Meddygol Cyffredinol
- Cyngor Optegol Cyffredinol
- Cyngor Osteopathig Cyffredinol
- Cyngor Fferyllol Cyffredinol
- Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal
- Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
- Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon
- Gwaith Cymdeithasol Lloegr
Dysgwch fwy am ein gwaith gyda'r rheolyddion
Cyswllt: media@professionalstandards.org.uk