Mae Bywydau Du yn Bwysig
17 Mehefin 2020
Mae marwolaeth drasig George Floyd wedi cael effaith ddofn ar bobl ledled y byd. Unwn mewn dicter yn y digwyddiadau hyn a'r dirifedi eraill nad ydynt yn cael eu crybwyll yn y cyfryngau. Mae hyn wedi dod â rhywfaint o fyfyrdod mawr ei angen ac wedi rhoi pwyslais ar y cyfrifoldeb sydd gennym ni i gyd i sicrhau gweithredu a newid cadarnhaol, parhaol. Rydym ni yn yr Awdurdod yn datgan yn glir ac yn bendant bod Bywydau Du o Bwys ac rydym yn cefnogi'r mudiad hwn yn ddiamod ac yn sefyll gyda'r rhai sy'n herio gwahaniaethu a hiliaeth o bob math.
Mewn ymateb i hyn, ac yn ychwanegol at y gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud, mae'r Awdurdod yn sefydlu prosiect i adolygu ein gwaith o hyrwyddo a monitro cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd y prosiect hwn yn adolygu pob agwedd ar ein gwaith, gan gynnwys ein polisïau a’n prosesau, yn ogystal â’n rhyngweithio allanol â rhanddeiliaid. Byddwn yn adolygu'r newidiadau a wnaed gan y prosiect yn ddiweddarach yn 2020 i sicrhau bod gwelliannau wedi'u gwneud.
Gyda’n gilydd, mae dyletswydd ar bob un ohonom i sicrhau ein bod yn nodi ac yn dileu gwahaniaethu ac mae’n rhaid inni weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod newid. Byddwn yn meddwl yn galed am yr hyn y gallwn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn well ar gyfer yr holl staff; a bydd yn edrych ar yr hyn y mae sefydliadau eraill yn ei wneud er mwyn dysgu a gwella.