Dathlu Mis Balchder: pam mae gwahardd therapi trosi yn bwysig er mwyn diogelu'r cyhoedd

17 Mehefin 2021

Mae mis Mehefin yn fis Balchder mewn llawer o wledydd ledled y byd, gan gynnwys y DU. Daw mis Pride eleni ar ôl cyhoeddiad diweddar gan y Llywodraeth yn datgan cynlluniau i ddeddfu ar wahardd therapi trosi yn y DU, a nodir yn araith y Frenhines ar 11 Mai. Mae cynigion y Llywodraeth hefyd yn cynnwys, am y tro cyntaf, cronfa gymorth ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan y practis.

Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn y cyhoedd rhag niwed drwy oruchwylio gwaith rheolyddion gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a Chofrestrau Achrededig ac rydym yn gwrthwynebu therapi trosi. Mae arnom felly angen unrhyw gofrestr berthnasol yr ydym yn ei hachredu i sicrhau nad yw ei chofrestryddion yn ymarfer therapi trosi.

Mynegwyd ein cefnogaeth yn flaenorol i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan sefydliadau gan gynnwys Cyngor Seicotherapi y DU (UKCP). Roedd y sefydliadau hyn am ddangos eu hymrwymiad i roi terfyn ar yr arfer o therapi trosi yn y DU, yn ogystal â gwella hyfforddiant gweithwyr proffesiynol cwnsela, seicotherapi ac iechyd meddwl, a chynyddu’r cymorth emosiynol sydd ar gael i gleientiaid sy’n ceisio cymorth therapiwtig. Fe wnaethom gefnogi gweithredu gan ein Cofrestrau Achrededig a gwneud yn glir na fyddem, o dan ein dyletswyddau cydraddoldeb, yn cefnogi unrhyw gofrestr a oedd yn cymeradwyo therapi trosi. Diweddarwyd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ymhellach yn 2018, ac er y bu mesurau sylweddol i atal ei ymarfer, nid yw therapi trosi wedi'i wahardd gan y gyfraith ar hyn o bryd yn ei holl ffurfiau. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn newid hyn, er mwyn amddiffyn cleientiaid ar draws y gymuned LHDT.

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion