Newid ar gyfer y rhaglen Cofrestrau Achrededig yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus

23 Ebrill 2021

Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol heddiw wedi cyhoeddi adroddiad o’r enw Siâp y rhaglen Cofrestrau Achrededig yn y dyfodol , yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus i geisio barn am ein cynigion ar gyfer ffurf y rhaglen yn y dyfodol.

Yn yr adroddiad, rydym yn cyflwyno ein dadansoddiad o’r ymatebion a gawsom i’r ymgynghoriad ac yn archwilio themâu craidd sydd wedi dod i’r amlwg, gan gynnwys:

  • Cydnabod pwysigrwydd sefydlu system o sicrwydd ar gyfer rolau iechyd a gofal heb eu rheoleiddio yn y system ehangach
  • Cefnogaeth i ni roi mwy o ystyriaeth i fudd y cyhoedd a risgiau o niwed wrth benderfynu pa gofrestrau sy’n gymwys i gael eu hachredu, tra’n cadw dewis cleifion
  • Cyflwyno model ariannu cynaliadwy ar gyfer y rhaglen a chylch asesu mwy cymesur.

Wrth wneud sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd y Prif Weithredwr Alan Clamp:

“Mae’r rhaglen Cofrestrau Achrededig yn rhan bwysig o’r dirwedd reoleiddiol, gan ganiatáu i’r cyhoedd, cyflogwyr a defnyddwyr eraill gwasanaethau gofal iechyd wneud dewisiadau gwybodus wrth dderbyn triniaeth gan ymarferydd gofal iechyd nad yw wedi’i reoleiddio gan y gyfraith.

“Diolch i farn y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad, ac i randdeiliaid eraill, rydym bellach mewn sefyllfa gryfach nag erioed i ailddiffinio sut beth yw system wirfoddol dda o sicrwydd.

Pam wnaethom ni ymgynghori?

Crëwyd y rhaglen Cofrestrau Achrededig yn 2012 i ddarparu system o oruchwylio a sicrwydd ar gyfer rolau gofal iechyd heb eu rheoleiddio. Yn yr wyth mlynedd diwethaf, rydym wedi achredu ystod o gofrestrau sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o alwedigaethau.

Fodd bynnag, daeth yn amlwg na allai’r rhaglen gyrraedd ei llawn botensial heb fwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a mwy o gydweithio â’r llywodraeth a chyrff gofal iechyd eraill. Yn fwy sylfaenol, nid oedd y rhaglen yn ariannol hyfyw ac mae angen newidiadau i'r model ffioedd. Ym mis Mehefin 2020, fe wnaethom gyhoeddi adolygiad strategol ac yn dilyn cyfnod cychwynnol o ddadansoddi, lansiwyd ein hymgynghoriad ar ddiwedd 2020. Mae’r ymatebion a gawsom, ynghyd ag adborth ychwanegol gan randdeiliaid, wedi ein galluogi i greu gweledigaeth a strwythur newydd ar gyfer y rhaglen.

Beth sy'n digwydd nesaf? 

Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn parhau i fireinio ein cynigion ac ymgynghori â grwpiau rhanddeiliaid a dargedir. Byddwn yn ceisio barn y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio i wneud yn siŵr ein bod yn deall yr effeithiau yn llawn. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am ein cynigion ar ôl i’n Bwrdd gyfarfod ym mis Mai 2021, gyda’r bwriad o roi’r newidiadau ar waith o fis Gorffennaf 2021.

Darllenwch yr adroddiad llawn neu'r ystadegau allweddol yn y ffeithlun hwn.

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 Cyswllt: Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi

E-bost: media@professionalstandards.org.uk

Nodiadau i'r Golygydd

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU (Y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, y Cyngor Optegol Cyffredinol, y Cyngor Osteopathig Cyffredinol, y Cyngor Cyffredinol Cyngor Ceiropracteg, Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, Cyngor Fferyllol Gogledd Iwerddon a Social Work England).
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion