A yw rheolyddion yn creu neu'n dilysu hunaniaeth broffesiynol?

08 Chwefror 2018

Rydym newydd gyhoeddi ein papur ymchwil diweddaraf Hunaniaeth broffesiynol a rôl y rheolydd . Mae'r papur hwn yn rhoi trosolwg o ganfyddiadau ein hadolygiad llenyddiaeth a'r ymchwil a gomisiynwyd gennym gan Dr Simon Christmas ar hunaniaeth broffesiynol a rheoleiddio . Mae’r trosolwg yn cysylltu’r ddau bapur, gydag ymchwil desg bellach, i ddod i’r casgliadau a ganlyn:

  • Yn fras, mae gan reoleiddiwr y gallu i ddilysu ac annilysu hunaniaeth. Hunaniaeth yw sut mae ymarferwr yn gweld ei hun, ac mae gan gofrestriad y gallu i ddilysu ac annilysu'r hunanganfyddiad hwn. Nid yw rheoleiddio yn creu hunaniaeth.
  • Mae gofynion rheoliadol ar gyfer cofrestriad cychwynnol gyda deiliad cofrestr yn chwarae rhan yn natblygiad ymarfer a hunaniaeth unigol.
  • Unwaith y bydd ymarferydd wedi cymhwyso, ychydig iawn o effaith uniongyrchol a gaiff rheoleiddio ar hunaniaeth broffesiynol ac eithrio mewn argyfwng neu amgylchiadau nad ydynt yn arferol.
  • Gall ymarferwr unigol ddilysu ei hunaniaeth broffesiynol trwy alinio hunaniaeth â chymuned ehangach o ymarferwyr o'r un anian trwy gofrestr.
  • Er nad dyma brif ddiben rheoleiddio, roedd rhai ymarferwyr yn cysylltu rheoleiddio statudol â'u statws mewn cymdeithas.
  • Mae gan lawer o ffactorau ddylanwad mwy neu fwy uniongyrchol ar hunaniaeth na rheoleiddio proffesiynol, mae'r rhain fel arfer yn ffactorau mwy lleol fel: cydberthynas â chleifion a'r amgylchedd gwaith.

Cysylltwch â Michael Warren , Cynghorydd Polisi, os hoffech ragor o fanylion am ymchwil yr Awdurdod i hunaniaeth broffesiynol a rheoleiddio.

 

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion