Cyngor Cymdeithion Ymarfer Iechyd yn cwrdd â 'phrawf lles y cyhoedd' Cofrestrau Achrededig
11 Ionawr 2023
Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar gais Health Practice Associates Council (HPAC) am asesiad yn erbyn Safon Un o'n Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig. Fe'i gelwir hefyd yn 'brawf lles y cyhoedd', ac rydym yn asesu a yw buddion gweithgareddau'r rolau a gofrestrwyd gan yr HPAC yn debygol o orbwyso'r risgiau.
Rydym yn cynnig asesiad cychwynnol yn erbyn Safon Un i wirio a yw Cofrestr yn dod o fewn cwmpas y rhaglen Cofrestrau Achrededig, cyn cyflwyno cais llawn. O ran HPAC, canfuom, yn gyffredinol, fod prawf lles y cyhoedd yn cael ei fodloni dros dro er i ni argymell rhai meysydd i'w hystyried cyn gwneud cais llawn am achrediad.
Mae HPAC yn sefydliad DU gyfan sy'n cofrestru pobl sy'n gweithio yn y sector gofal iechyd cyn ysbyty, fel staff ambiwlans, nad yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith iddynt gofrestru gyda rheoleiddiwr statudol. Gall gweithwyr cofrestredig ddarparu triniaeth achub bywyd mewn achosion difrifol a helpu i leihau'r angen am ymyriad meddygol pellach mewn achosion eraill.
Mae cyrff cenedlaethol gan gynnwys y Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC) wedi cefnogi cais HPAC am achrediad. Dywedodd y CQC yn 2022: 'Rydym eisoes wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch recriwtio anniogel yn y sector ambiwlansys. Rydym felly'n cefnogi HPAC i wneud cais i'r Awdurdod Safonau Proffesiynol i gefnogi recriwtio clinigwyr ambiwlans nad ydynt yn barafeddygon yn ddiogel.'
Dywedodd Alan Clamp, Prif Weithredwr yr Awdurdod Safonau Proffesiynol: 'Rydym yn falch bod yr HPAC wedi gwneud cais am asesiad o dan Safon Un a'i fod wedi bodloni'r Safon dros dro. Mae 'prawf lles y cyhoedd' yn cefnogi dewis gwybodus i gleifion ac yn lleihau'r risg y bydd cofrestr yn cael ei hachredu os na all ddangos tystiolaeth o sut mae ei chofrestryddion yn cefnogi iechyd a lles.'
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk
- Mae'r HPAC yn cofrestru amrywiaeth o rolau, sef: swyddogion cymorth cyntaf, ymatebwyr cyntaf, cynorthwywyr gofal ambiwlans, ymatebwyr meddygol yr heddlu, ymatebwyr meddygol tân, cynorthwywyr gofal brys, technegwyr ambiwlans, ymarferwyr ambiwlans cyswllt ac is-gofrestru ar gyfer myfyrwyr parafeddygon.