Gorchymyn yr Uchel Lys yn cael ei ddileu yn achos yr NMC a Hayes
02 Tachwedd 2021
Yn dilyn ein hapêl i'r Uchel Lys yn achos y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) a Melanie Hayes, mae'r Llys wedi cymeradwyo'r gorchymyn cydsynio y cytunwyd arno gan bob parti y dylai Ms Hayes gael ei dileu o gofrestr nyrsys yr NMC.
Mae'r Awdurdod yn glir nad oes lle i hiliaeth o fewn cymdeithas a byddwn yn parhau i sicrhau ein bod ni a'r rheolyddion a oruchwyliwn yn gweithio gyda'n gilydd i gymryd y camau priodol. Mae’r NMC wedi ymrwymo i ddysgu o’r apêl hon, a chroesawn hynny.
Rydym am i unrhyw un sydd wedi bod yn destun hiliaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol deimlo y gallant godi pryder a gwybod yr ymchwilir iddo ac yr eir i'r afael ag ef yn briodol.
Gallwch ddarllen y gorchymyn caniatâd yma .