Marc ansawdd annibynnol ar gyfer Ffisiolegwyr Clinigol

23 Mawrth 2018

O dan y rhaglen Cofrestrau Achrededig, bydd ymarferwyr ar gofrestr y Cyngor Cofrestru Ffisiolegwyr Clinigol (RCCP) yn gallu arddangos nod ansawdd y Gofrestr Achrededig, arwydd eu bod yn perthyn i gofrestr sy'n bodloni safonau cadarn yr Awdurdod Safonau Proffesiynol.

Dywedodd Trefor Watts, Cadeirydd RCCP: 'Yn dilyn asesiad trylwyr, rydym wrth ein bodd bod ein hymrwymiad i ddiogelwch cleifion a safonau proffesiynol uchel wedi'i gydnabod gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol. Bydd y nod ansawdd yn rhoi tawelwch meddwl ychwanegol i unrhyw un sy’n chwilio am ffisiolegydd clinigol, gan roi gwybod iddynt fod unrhyw un sy’n dal y marc wedi ymrwymo i safonau uchel. Mae'r RCCP yn falch o gynnig y nod ansawdd i ffisiolegwyr clinigol sy'n bodloni safonau pellgyrhaeddol ein cofrestr, fel y'u cymeradwywyd gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol.'

Dywedodd Harry Cayton, Prif Weithredwr yr Awdurdod Safonau Proffesiynol: 'Rydym yn falch iawn o achredu cofrestr y Cyngor Cofrestru Ffisiolegwyr Clinigol. Mae dod â’r ymarferwyr hyn i fframwaith eang o sicrwydd yn beth da i gleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd a dyma’r ffordd orau o hybu ansawdd. Mae'r rhaglen yn cynnig haen newydd o amddiffyniad i bobl sy'n derbyn gwasanaethau iechyd, ac yn rhoi cyfle i Ffisiolegwyr Clinigol ddangos eu hymrwymiad i arfer da.'

Nid yw achrediad yn awgrymu bod yr Awdurdod wedi asesu rhinweddau unigolion ar y gofrestr. Mae hyn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb y RCCP. Mae achrediad yn golygu bod cofrestr yr RCCP yn bodloni safonau uchel yr Awdurdod Safonau Proffesiynol o ran llywodraethu, gosod safonau, addysg a hyfforddiant, rheoli'r gofrestr, ymdrin â chwynion a gwybodaeth.

Mae Cofrestrau Achrededig yn cwmpasu ystod gynyddol o alwedigaethau a sefydliadau a gall yr Awdurdod Safonau Proffesiynol achredu mwy nag un gofrestr mewn unrhyw alwedigaeth benodol. Mae rhagor o wybodaeth am Gofrestrau Achrededig ar gael yn www.professionalstandards.org.uk/what-we-do/accredited-registers

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion