Gwahoddiad i dendro am wasanaethau gwefan a digidol
09 Ionawr 2018
Gwefan yr Awdurdod yw ein prif sianel gyfathrebu a chyhoeddi. Mae'n cyfleu gwybodaeth am ein sefydliad a'n gwaith, am reoleiddio a chofrestru yn gyffredinol, yn hyrwyddo ein gwerthoedd ac yn dangos sut rydym yn helpu i ddiogelu'r cyhoedd ac annog gwelliant.
Rydym yn gwahodd tendrau i ddarparu gwefan a gwasanaethau digidol. Rhaid i'r cyflenwr fod wedi'i gymeradwyo gan Sitefinity a chydymffurfio ag ISO 2700.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynigion yw 6 Chwefror 2018 .
Mae'r ddogfen dendro lawn ar gael yma .
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk