Prif gynnwys

Cyfarwyddwr Rheoleiddio ac Achredu Dros Dro newydd yn y PSA

02 Ebrill 2025

Bydd Graham Mockler, Cyfarwyddwr Rheoleiddio ac Achredu'r PSA yn cymryd cyfnod sabothol o 12 mis o fis Ebrill 2025.  

Yn dilyn proses recriwtio allanol, mae Amanda Partington-Todd wedi'i phenodi ar secondiad i gyflawni'r rôl. Mae Amanda yn ymuno â’r PSA o’i swydd fel Dirprwy Gyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn y Comisiwn Ansawdd Gofal ac mae wedi gweithio ym maes rheoleiddio iechyd a gofal cymdeithasol ers 2012.

Bydd Amanda yn dechrau yn ei swydd o 14 Ebrill 2025.