Awdurdod Safonau Proffesiynol yn dyfarnu Marc Ansawdd i Sefydliad Athena Herd

25 Ionawr 2024

Heddiw, mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PSA) wedi achredu Sefydliad Athena Herd. Mae’r PSA yn gorff statudol annibynnol, sy’n atebol i’r Senedd.
 

Mae Sefydliad Athena Herd (Athena) yn ddarparwr rhyngweithiadau wedi’u hwyluso gan geffylau ac yn ddarparwr hyfforddiant blaenllaw ar gyfer ymarferwyr ceffylau yn y DU. Dyma'r Gofrestr gyntaf a achredwyd gan y PSA sy'n ymwneud â defnyddio anifeiliaid yn uniongyrchol i ddarparu gwasanaethau therapiwtig a lles.
 

O dan y rhaglen Cofrestrau Achrededig, bydd ymarferwyr sydd wedi'u cofrestru ag Athena bellach yn gallu dangos y Marc Ansawdd Cofrestrau Achrededig, arwydd clir bod y Gofrestr yn bodloni Safonau'r PSA ar gyfer Cofrestrau Achrededig.
 

Mae cofrestru gyda Chofrestr Achrededig yn rhoi hyder i gyflogwyr a chleifion, defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd fod ymarferwyr wedi ymrwymo i godau proffesiynol a moesegol cadarn. Rhaid i bob Cofrestr a achredir gan y PSA gael prosesau cwyno tryloyw er mwyn gallu mynd i'r afael â pherfformiad gwael. Pan fydd camwedd difrifol yn digwydd, bydd yr ymarferydd yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr.
 

Dywedodd Andrew Stephenson AS, y Gweinidog Gwladol dros Iechyd a Gofal Eilaidd:

“Gellir ymgymryd â llawer o rolau iechyd a gofal cymdeithasol heb reoleiddio statudol. Mae’r rhaglen Cofrestrau Achrededig, sy’n cael ei rhedeg gan yr Awdurdod Safonau Proffesiynol, yn sicrhau bod pobl sy’n derbyn gofal gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn rolau heb eu rheoleiddio yn cael eu hamddiffyn yn well. Mae achrediad yn dangos ymrwymiad Cofrestr i'w maes gwaith. Pan fydd Cofrestr yn dangos Marc Ansawdd y PSA, gall cyflogwyr ac unigolion fod yn sicr o’u hymrwymiad i safonau uchel o ofal, safonau proffesiynol ac ymddygiadau moesegol.”
 

Dywedodd Alan Clamp, Prif Weithredwr yr Awdurdod Safonau Proffesiynol:

“Rydym yn falch iawn o achredu Athena. Mae dod â’r ymarferwyr hyn i fframwaith eang o sicrwydd yn beth da i gyflogwyr a’r cyhoedd a dyma’r ffordd orau o hyrwyddo ansawdd. Mae’r rhaglen Cofrestrau Achrededig yn cynnig haen o amddiffyniad i bobl sy’n derbyn gwasanaethau iechyd a gofal ac yn rhoi cyfle i’r ymarferwyr ar Gofrestr Athena ddangos eu hymrwymiad i arfer da.”

Gwybodaeth gefndir

Nid yw achrediad yn awgrymu bod y PSA wedi asesu rhinweddau unigolion ar y Gofrestr. Mae hyn yn parhau i fod yn gyfrifoldeb Athena. Mae achrediad yn golygu bod Athena yn bodloni safonau uchel y PSA mewn llywodraethu, gosod safonau, addysg a hyfforddiant, rheoli'r Gofrestr, ymdrin â chwynion a gwybodaeth.

Mae Cofrestrau Achrededig yn cwmpasu ystod gynyddol o alwedigaethau a sefydliadau a gall y PSA achredu mwy nag un Gofrestr mewn unrhyw alwedigaeth benodol. Mae rhagor o wybodaeth am Gofrestrau Achrededig ar gael yn www.professionalstandards.org.uk/what-we-do/accredited-registers 

DIWEDD

Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
 

Nodiadau i'r Golygydd
 

  1. Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
  2. Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
  3. Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
  4. Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
  5. Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
  6. Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
  7. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk

Newyddion cysylltiedig

Gweler yr holl newyddion