Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol yn ymgynghori ar ehangu mynediad i wiriadau cofnodion troseddol ar gyfer ymarferwyr Cofrestrau Achrededig
16 Tachwedd 2022
Heddiw, mae'r Awdurdod wedi cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch a ddylai Cofrestrau Achrededig gynnwys gwiriadau cofnodion troseddol fel rhan o'u prosesau cofrestru yn y dyfodol. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 7 Chwefror 2023.
Mae gwiriadau cefndir cofnodion troseddol yn rhan bwysig o fesurau diogelu i amddiffyn cleifion a'r cyhoedd. Cânt eu cynnal gan wahanol asiantaethau, yn dibynnu ar ble yn y DU y mae'r gwaith yn cael ei wneud.
Mae bod yn rhan o'r rhaglen Cofrestrau Achrededig yn dangos ymrwymiad i safonau uchel a diogelu'r cyhoedd sy'n cynyddu hyder y cyhoedd a chyflogwyr. Nid yw rhai ymarferwyr ar Gofrestr Achrededig yn destun gwiriad cofnodion troseddol gan gyflogwr, er enghraifft os ydynt yn hunangyflogedig. Credwn fod yn rhaid cael hyder yn y gwiriadau y mae ymarferwyr wedi bod yn destun iddynt, a lefelau priodol o wiriadau waeth beth fo'u statws cyflogaeth.
Yn gynharach eleni, cwblhawyd peilot gennym i brofi’r trefniadau ymarferol ar gyfer Cofrestrau Achrededig i gael mynediad at wiriadau yng Nghymru a Lloegr, gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a Chymdeithas Seicotherapyddion Plant. Dangosodd hyn, er nad ydynt yn gyflogwr neu'n gorff statudol, mewn rhai amgylchiadau ystyrir bod ymarferwyr y Gofrestr Achrededig yn cyflawni 'gweithgaredd a reoleiddir' sy'n golygu eu bod yn gymwys ar gyfer y lefel uchaf o wiriad DBS.
Rydym am ddeall yn well yr effaith ar Gofrestrau Achrededig, ymarferwyr, aelodau'r cyhoedd a phobl â chofnodion troseddol ar gyflwyno gofynion newydd yn y maes hwn cyn i ni wneud penderfyniad ynghylch a ddylid diweddaru ein Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig. Byddwn hefyd yn ystyried canfyddiadau Adolygiad Annibynnol y Llywodraeth o’r Gyfundrefn Datgelu a Gwahardd, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022. Diben adolygiad y Llywodraeth yw rhoi sicrwydd i Weinidogion ynghylch effeithiolrwydd y drefn datgelu a gwahardd o ran diogelu plant a oedolion agored i niwed.
Dywedodd llefarydd ar ran y DBS:
'Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cyflawni rôl hanfodol wrth helpu i amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed drwy gefnogi sefydliadau, megis yr Awdurdod Safonau Proffesiynol, i wneud penderfyniadau addasrwydd mwy diogel.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r DBS wedi darparu cymorth ac arweiniad wedi'u teilwra i'r Awdurdod, gan helpu i wella ei ddull o ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth iddo nesáu at ei ymgynghoriad newydd.'
Rydym hefyd yn gweithio gyda Disclosure Scotland ac AccessNI i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu dull gweithredu cyson ar gyfer y DU gyfan.
Sut i ymateb
Rydym yn croesawu barn ar ein cynigion, erbyn 7 Chwefror 2023.
Gallwch ddarganfod mwy am yr ymgynghoriad yma .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yma.
- Mae rhagor o wybodaeth am Adolygiad Annibynnol y Llywodraeth o’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gael yma: https://questions-statements.parliament.uk/written-statements/detail/2022-02-24/hcws633
- Mae rhagor o wybodaeth am Gymdeithas y Seicotherapyddion Plant ar gael yn www.childpsychotherapy.org.uk