Awdurdod Safonau Proffesiynol yn penderfynu peidio ag achredu Cyngor Cenedlaethol y Seicotherapyddion Integreiddiol
03 Tachwedd 2023
Mae’r PSA wedi penderfynu peidio ag achredu Cyngor Cenedlaethol y Seicotherapyddion Integreiddiol (NCIP) ac wedi cyhoeddi’r penderfyniad llawn ar-lein heddiw.
Cyfarfu panel i ddechrau ar 9 Rhagfyr 2022 i ystyried a oedd yr NCIP wedi bodloni’r holl Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig . Nid oeddent ac felly cyhoeddodd y panel amrywiaeth o gamau gweithredu mewn meysydd gan gynnwys addysg a hyfforddiant, llywodraethu a thrin cwynion.
Ailgynullodd y panel ar 13 Medi 2023 a phenderfynwyd er bod rhai o'r camau gweithredu wedi'u cyflawni'n rhannol, nid oedd cofrestr yr NCIP yn bodloni'n llawn ein Safonau ar gyfer Cofrestrau Achrededig o hyd. Cadarnhaodd y panel eu penderfyniad i beidio ag achredu’r NCIP ar hyn o bryd.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk