Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019/20
16 Gorffennaf 2020
Mae’r adroddiad eleni wedi’i lunio a’i gyhoeddi dan amgylchiadau tra gwahanol, a thrist. Mae’r adroddiad yn ymdrin â’n gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cyn ac yn fuan ar ôl i’r pandemig daro’r DU.
Ar nodyn cadarnhaol, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi gosod y sylfaen ar gyfer symudiad y sector iechyd a gofal cymdeithasol i ddull rheoleiddio mwy hyblyg ac ystwyth, gyda phwyslais cryfach gan reoleiddwyr ar gydweithio.
Ym mis Gorffennaf 2019, fe wnaethom groesawu ymateb y llywodraeth i’w hymgynghoriad ar ddiwygio rheoleiddio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sy’n bwriadu rhoi mwy o hyblygrwydd i reoleiddwyr. Rydym yn cefnogi symudiadau i ddiwygio gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer rheolyddion. Ond ni ddylai fod unrhyw leihad yn amddiffyniad y cyhoedd. Fel y mae ein hadroddiad yn ei wneud yn glir, rhaid i fwy o hyblygrwydd gael ei gydbwyso â mwy o atebolrwydd. Mae gwneud fel arall yn wrth-reddfol.
Ym mis Tachwedd, canolbwyntiodd ein symposiwm blynyddol ar gyfer y rheolyddion ar gydweithio, a rhannu dysgu rhwng iechyd a sectorau rheoleiddio eraill. Mae llawer o ymholiadau wedi canfod diffyg cydweithredu a chydweithio wrth wraidd problemau, ac mae'r Awdurdod wedi ceisio annog gwelliant.
Ym mis Rhagfyr, buom yn goruchwylio'r broses lwyddiannus o drosglwyddo rheoleiddio gweithwyr cymdeithasol i Social Work England. Ym mis Ionawr, fe wnaethom gyflwyno ein Safonau Rheoleiddio Da newydd gan gynnwys safon newydd yn asesu sut mae rheolyddion yn ystyried amrywiaeth eu cofrestreion ac eraill y maent yn rhyngweithio â nhw ac yn ceisio sicrhau nad yw prosesau yn rhoi pobl â nodweddion gwarchodedig dan anfantais.
Mae ein rhaglen cofrestrau achrededig wedi parhau i dyfu, ac mae bellach yn cynnwys bron i 90,000 o ymarferwyr a llawer o alwedigaethau. Fodd bynnag, nid yw wedi bod heb ei heriau. Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom ymateb i gais am adolygiad barnwrol, a oedd, er iddo gael ei dynnu’n ôl, yn codi rhai materion pwysig i ni eu hystyried. Nid yw’r rhaglen wedi cyflawni annibyniaeth ariannol ac nid yw’r bwlch yn y ddeddfwriaeth diogelu a amlygwyd gennym ers ychydig flynyddoedd wedi’i gau eto. Eleni byddwn yn cynnal adolygiad strategol o'r rhaglen i benderfynu ar y camau nesaf.
Dywedodd Alan Clamp, Prif Weithredwr: 'Yn anffodus, daeth y flwyddyn i ben, fel llawer, yn addasu i bandemig y Coronafeirws. Ymatebodd ein staff yn wych i'r newid ac rydym wedi parhau â'n gwaith fel y cynlluniwyd, gyda chyn lleied â phosibl o golled mewn cynhyrchiant. Eleni byddwn yn canolbwyntio ar barhau i gefnogi rheolyddion a'r cofrestrau achrededig i ddelio ag effaith y Coronafeirws ar eu cofrestreion a'r cyhoedd; lansiwyd ein prosiect cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn ymateb i farwolaeth drasig George Floyd ac eraill tebyg iddo, ac ar ddiwygio rheoleiddio a diogelu'r cyhoedd yn barhaus'.
Gellir lawrlwytho'r adroddiad o'n gwefan yma . Gallwch hefyd ddarllen trwy ffeithlun o ystadegau allweddol ar gyfer y flwyddyn , neu grynodeb .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
Christine Braithwaite
E-bost: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
E-bost: info@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk