Awdurdod Safonau Proffesiynol yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol
05 Gorffennaf 2019
Mae'r Awdurdod wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol heddiw. Gosodwyd yr adroddiad gerbron y Senedd ar 27 Mehefin 2019 ac mae’n cyflawni ein dyletswydd i adrodd i’r Senedd ar ein perfformiad ein hunain; a pherfformiad y rheolyddion gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol a'r cofrestrau achrededig a oruchwyliwn.
Mae’r adroddiad yn amlygu meysydd allweddol o’n gwaith yn 2018/19, gan gynnwys:
- Craffu ar benderfyniadau addasrwydd i ymarfer terfynol y rheolyddion ac apelio yn erbyn unrhyw benderfyniadau terfynol y credwn eu bod yn annigonol i amddiffyn y cyhoedd
- Adolygu perfformiad y naw rheolydd proffesiynol iechyd a gofal
- Ein goruchwyliaeth o’r rhaglen cofrestrau achrededig a pharhau yn ein hymdrechion i gynyddu ymwybyddiaeth o’r rhaglen
- Cyhoeddi ein hadolygiad gwersi a ddysgwyd o’r modd yr ymdriniodd yr NMC â chwynion yn erbyn bydwragedd yn Ysbyty Cyffredinol Furness
- Cynnal ein chweched cynhadledd academaidd a chyhoeddi dau ddarn allweddol o ymchwil ar ddyletswydd gonestrwydd ac ymddygiadau rhywiol rhwng cydweithwyr. Ym mis Medi 2018, fe wnaethom gyhoeddi Rheoleiddio cyffyrddiad cywir ar waith: safbwyntiau rhyngwladol .
Yn gyffredinol, mae'r rheolyddion wedi perfformio'n dda yn erbyn ein Safonau Rheoleiddio Da. Er mwyn sicrhau gwelliant parhaus, rydym wedi diwygio’r Safonau hyn yn ystod 2018/19 a byddwn yn gweithio gyda’r rheolyddion i’w gweithredu yn ystod 2019/20.
Rydym hefyd yn aros am gyhoeddiad ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar ddiwygio rheoleiddio, a fydd, gobeithio, yn darparu cyfleoedd i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd rheoleiddio.
Dywedodd Alan Clamp, Prif Weithredwr: 'Mae 2018/19 wedi bod yn flwyddyn gynhyrchiol iawn i'r Awdurdod. Hoffwn ddiolch i'r staff am eu harbenigedd, eu proffesiynoldeb a'u hymrwymiad i amddiffyn cleifion a'r cyhoedd.'
Gallwch lawrlwytho'r adroddiad llawn , yr uchafbwyntiau neu weld rhai o'n hystadegau allweddol ar gyfer y flwyddyn.
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt:
Christine Braithwaite
Cyfarwyddwr, Polisi a Safonau
E-bost: Christine.Braithwaite@professionalstandards.org.uk
Derbynfa: 020 7389 8030
E-bost: info@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cyngor Rhagoriaeth Rheoleiddio Gofal Iechyd) yn goruchwylio naw corff statudol sy'n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
-
Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
-
Mae ein gwerthoedd wrth wraidd pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud. Rydym wedi ymrwymo i fod yn ddiduedd, yn deg, yn hygyrch ac yn gyson wrth gymhwyso ein gwerthoedd.
-
Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk