Awdurdod Safonau Proffesiynol yn cyhoeddi ymateb i Adolygiad Cumberlege
17 Medi 2020
Rydym wedi cyhoeddi ein hymateb i adroddiad y Farwnes Cumberlege, First Do No Harm - yr Adolygiad Annibynnol o Ddiogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol .
Rydym yn cydnabod y difrod enfawr a achosir i gleifion gan y meddyginiaethau a’r dyfeisiau meddygol a archwiliwyd yn yr adolygiad hwn, yn ogystal â chanfyddiad yr adolygiad hwn ac adolygiadau eraill nad yw lleisiau cleifion wedi’u clywed. Rydym yn cytuno’n llwyr fod yn rhaid i’r system newid i atal hyn rhag digwydd eto.
Rydym yn croesawu’r adolygiad ac yn nodi ein hymateb i’w argymhellion. Yn fwy cyffredinol, nodwn fod yr adolygiad hwn wedi nodi bylchau yn y system reoleiddio a’r risg y bydd pryderon ynghylch diogelwch cleifion yn disgyn rhwng gwahanol gyrff. Mae hyn yn adlewyrchu canfyddiadau diweddar Adroddiad Paterson a gyhoeddwyd yn gynharach eleni a amlygodd natur dameidiog y dirwedd reoleiddiol; ac yn adleisio canfyddiadau tebyg gan Ymchwiliad Francis mewn blynyddoedd cynharach.
Rydym wedi anfon ein hymateb at Nadine Dorries, y Gweinidog dros Iechyd Meddwl, Atal Hunanladdiad a Diogelwch Cleifion. Mae’n pwysleisio’r angen i’r Llywodraeth sicrhau bod y diwygiadau a addawyd i reoleiddio proffesiynol yn ystyried canfyddiadau’r ymchwiliad hwn ac ymchwiliadau eraill wrth geisio hyrwyddo tirwedd reoleiddiol fwy cydlynol.
Gallwch ddod o hyd i'n hymateb yma .
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cyswllt: Christine Braithwaite, Cyfarwyddwr Safonau a Pholisi
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk