Awdurdod Safonau Proffesiynol yn cyhoeddi adroddiad ymgynghori ar ddiogelu
08 Awst 2023
Heddiw, mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol (PSA) yn cyhoeddi dadansoddiad o’i ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno gofynion i Gofrestrau Achrededig gael mynediad at wiriadau cofnodion troseddol.
Bu'r Bwrdd PSA yn ystyried canfyddiadau llawn yr ymgynghoriad ynghyd ag Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn ei gyfarfod ar 19 Gorffennaf 2023. Mae canfyddiadau'r ymgynghoriad a chanfyddiadau adolygiad y Llywodraeth o'r Gyfundrefn Datgelu a Gwahardd (Adolygiad Bailey) ill dau yn codi materion sydd berthnasol i gofrestriad pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Bydd ymateb y Llywodraeth i argymhellion Adolygiad Bailey yn ffactor allweddol mewn penderfyniadau ar wiriadau cofnodion troseddol yn y dyfodol.
Mae anghysondebau o ran cymhwyster a mynediad at wiriadau cofnodion troseddol ar gyfer Cofrestrau Achrededig a'r rheolyddion statudol . O fis Medi 2023, byddwn yn ehangu ffocws ein gwaith ar ddiogelu i ystyried y dirwedd reoleiddiol ehangach er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r risgiau cynhenid, gan ganolbwyntio ar drefniadau ar gyfer unigolion cofrestredig hunangyflogedig.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chyrff perthnasol i weithio tuag at ddull cyson sy’n seiliedig ar risg. Mae’r rhain yn cynnwys Llywodraeth y DU a’r asiantaethau sy’n goruchwylio gwiriadau cofnodion troseddol ledled y DU (y DBS, Disclosure Scotland ac AccessNI).
DIWEDD
Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
E-bost: media@professionalstandards.org.uk
Nodiadau i'r Golygydd
- Mae’r Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn goruchwylio 10 corff statudol sy’n rheoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn y DU.
- Rydym yn asesu eu perfformiad ac yn adrodd i'r Senedd. Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ac ymchwiliadau a gallwn apelio yn erbyn achosion addasrwydd i ymarfer i’r llysoedd os ydym o’r farn nad yw sancsiynau’n ddigonol i ddiogelu’r cyhoedd a’i fod er budd y cyhoedd.
- Rydym hefyd yn gosod safonau ar gyfer sefydliadau sy'n dal cofrestrau gwirfoddol ar gyfer galwedigaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac yn achredu'r rhai sy'n eu bodloni.
- Rydym yn rhannu arfer da a gwybodaeth, yn cynnal ymchwil ac yn cyflwyno syniadau newydd i'n sector. Rydym yn monitro datblygiadau polisi yn y DU ac yn rhyngwladol ac yn rhoi cyngor ar faterion yn ymwneud â safonau proffesiynol mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
- Gwnawn hyn i hybu iechyd, diogelwch a lles defnyddwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a'r cyhoedd. Rydym yn gorff annibynnol, yn atebol i Senedd y DU.
- Ein gwerthoedd yw – uniondeb, tryloywder, parch, tegwch a gwaith tîm – ac rydym yn ymdrechu i sicrhau eu bod yn greiddiol i’n gwaith.
- Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r dull a gymerwn ar gael yn www.professionalstandards.org.uk